Perchennog a hyfforddwr ceffylau wedi anafu mewn damwain hofrennydd
02/11/2022
Mae'r perchnogwr ceffylau Dai Walters a'r hyfforddwr ceffylau Sam Thomas wedi'u cludo i ysbyty ar ôl damwain hofrennydd ger Rhuthun yn Sir Ddinbych ddydd Mawrth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn hwyr yn y prynhawn, i ardal goediog yn Llanelidan.
Yn ôl Sky Sports Racing, mae Mr Walters, wnaeth adeiladu cae ras Ffos Las, wedi dioddef anafiadau mwy difrifol na Mr Thomas.
Ychwanegodd Luke Harvey o Sky Sports Racing bod Mr Walters ar ddihun yn yr ysbyty ac yn derbyn triniaeth, er bod ei anafiadau yn fwy difrifol.
Mae'r Awdurdod Awyrennau Sifil yn cynnal ymchwiliad.