Newyddion S4C

Y drefn o wirio plismyn yn ddiffygiol, medd arolygwyr

Sky News 02/11/2022
Police / Heddlu Lloegr

Gallai cannoedd os nad miloedd o blismyn, a ddylai fod wedi methu profion gwirio, fod yn gwasanaethu yng Nghymru a Lloegr - dyna rybudd gan arolygydd y maes plismona. 

Mae Arolygydd y Gwasanaethau Plismona, Tân ac Achub, HMICFRS wedi bwrw golwg ar 11,277 o swyddogion yr heddlu a staff mewn wyth o luoedd, gan ystyried 264 o gwynion ac ymchwiliadau i adroddiadau o gamymddwyn. 

Yn ôl casgliadau'r adroddiad, roedd gan rai gweithwyr record droseddol, roedd honiadau bod rhai wedi cyflawni troseddau difrifol, eraill â dyledion, a roedd gan rai berthnasau yn gysylltiedig â throseddau difrifol.

Roedd 131 o achosion, lle roedd arolygwyr o'r farn bod angen cwestiynu'r gwiriadau, tra bo 68 achos lle roedd yr arolygwyr yn anghytuno â'r penderfyniad i ganiatau i swyddog wasanaethu gyda'r heddlu.    

Dywedodd Matt Parr o'r sefydliad arolygu ei bod hi'n " rhy hawdd i'r bobl anghywir ymuno ac i barhau yn ei swydd gyda'r heddlu."

"Os ydy'r heddlu eisiau ail-adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd, a gwarchod eu swyddogion benywaidd a staff, yna mae angen i'r drefn wirio fod yn llawer mwy manwl, ac mae angen i gamymddwyn rhywiol gael ei gymryd llawer mwy o ddifrif, " meddai.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan y cyn ysgrifennydd cartref Priti Patel, yn dilyn marwolaeth Sarah Everard a gafodd ei chipio a'i llofruddio gan y plismon Wayne Couzens yn Llundain ym mis Mawrth 2021. 

Darllenwch fwy yma  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.