Newyddion S4C

Dyn ifanc wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Llandudno

01/11/2022
Llun o gar heddlu.

Mae dyn ifanc wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Llandudno.

Digwyddodd y gwrthdrawiad oedd yn cynnwys Vauxhaull Corsa du, ar ffordd y A470, Ffordd Conwy ddydd Llun.. 

Fe gafodd y gyrrwr 20 oed ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan gydag anafiadau difrifol, lle bu farw yn ddiweddarach. 

Mae dyn lleol 19 oed wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod B161618. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.