Heddlu Gwrth Derfysgaeth yn ymchwilio i'r ymosodiad ar ganolfan i fudwyr

Mae Heddlu Gwrth Derfysgaeth bellach yn arwain yr ymchwiliad i'r ymosodiad yn Dover ddydd Sul, pan gafodd bomiau petrol eu taflu at ganolfan sy'n prosesu ceisiadau mudwyr.
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r dyn sy'n cael ei amau o daflu'r ddau fom petrol.
Roedd Andrew Leak yn 66 oed ac yn dod o ardal High Wycombe yn Sir Buckingham. Cafodd ei gorff ei ddarganfod ger gorsaf betrol, wedi'r ymosodiad.
Cafodd dau berson eu hanafu.
Mae'r heddlu o'r farn mai casineb oedd wrth wraidd yr ymosodiad yn hytrach na bygythiad terfysgol ehangach.
Darllenwch ragor yma.