Newyddion S4C

Pryder y gallai’r argyfwng costau byw arwain at aeaf o droseddau gwledig

Pryder y gallai’r argyfwng costau byw arwain at aeaf o droseddau gwledig

Mae yna bryder y gallai’r argyfwng costau byw arwain at aeaf o droseddau gwledig.

Yn ôl arolwg diweddar gan gwmni yswiriant NFU Mutual, roedd 89% yn credu y byddai’n arwain at gynnydd mewn troseddau gwledig.

Mae Cari Sioux yn ffermio yng Nghwm Cynllwyd ger Llanuwchllyn. Yr wythnos diwethaf cafodd offer eu dwyn o’i fferm.

"Mi ddoth 'na ladron yma nos Iau a dwyn motor-beic mawr, a motor-beic y plant, a ychydig o bethau eraill o'r siediau ar y buarth," meddai.

"Ti'n amau bob peth. Bob sŵn, bob golau, bob symudiad, a bob car sydd ar y ffordd wan. A dio ddim yn neis iawn o gwbl, a fyswn i ddim isio i neb arall teimlo fel hyn chwaith achos mae o'n deimlad afiach."

Ychydig filltiroedd oddi yno ar fferm yn Rhydymain, collodd Huw Evans landrofer un noson ychydig wythnosau yn ôl, ac mae’n credu bod angen “cynyddu presenoldeb heddlu” yn yr ardal.

Wrth siarad a Newyddion S4C, dywedodd bod y " sefyllfa i'w weld fel petai o'n gwaethygu. Yn y pen draw dwi'n licio meddwl ein bod ni'n fobl heddychlon.

"Da ni'n mynd o gwmpas ein gwaith bob dydd, a mwy na digon i neud mewn diwrnod gwaith. Mae o'n drist bo ni'n ffeindio'n hunan yn darged i ladron, ar raddfa fawr bellach."

Yn ôl NFU Cymru mae nhw wedi derbyn sawl cwyn dros yr wythnosau diwethaf yn ymwneud â lladrata yng nghefn gwlad ac yn benodol yn ardal Dolgellau a’r Bala.

Dywedodd Iestyn Pritchard o NFU: "Y tueddiad sydd di bod yn yr achosion i gyd bron iawn, ydi dio ddim jyst un ffarm yn cael ei hitio, ma' nhw'n hitio dwy neu dair efo'i gilydd. Felly mae'n ymgyrch ganddyn nhw mewn gwirionedd i ddod yma a dwyn.

"Ma' 'na dueddiad ynom ni fel cymuned wledig i beidio rhannu'r wybodaeth yma efo'r heddlu. O feddwl mi 'na i neud, ond byth yn neud. Dwi'n meddwl yn fwy nag erioed rŵan mae o'n bwysig iawn fod bobl yn mynd allan, ac unrhyw beth ma' nhw'n i weld, yn sicr yn mynd at yr heddlu a deud 'thyn nhw." 

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn gwrando ar bryderon y cymunedau ac wedi cynyddu patrolau mewn ardaloedd gwledig.

“Hoffwn hefyd annog unrhyw un sydd â beic cwad i gymryd pob cam rhesymol i ddiogelu eu heiddo ...ac i gysylltu â'r heddlu cyn gynted â phosibl yn dilyn unrhyw ddigwyddiad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.