David TC Davies i wynebu cwestiynau ASau am y tro cyntaf
Bydd David TC Davies yn wynebu cwestiynau gan Aelodau Seneddol am y tro cyntaf ers iddo gael ei benodi'n Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddydd Mercher.
Bydd yn wynebu cwestiynau gan y Pwyllgor Materion Cymreig sy'n cael ei gadeirio gan Stephen Crabb yn y gyntaf o sesiynau rheolaidd wrth iddo ymgymryd â'r rôl.
Mae'r pynciau'n debygol o gynnwys yr argyfwng costau byw, ei rôl fel Ysgrifennydd Cymru, blaenoriaethau'r Prif Weinidog newydd a'r berthynas rhwng llywodraethau Cymru a'r DU.
Mae hi hefyd yn bosib y bydd yn cael ei herio ar ddisodli cronfeydd ariannol yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru a dyfodol ynni niwclear.
Cafodd Mr Davies ei ddewis ar gyfer y rôl gan y Prif Weinidog newydd, Rishi Sunak, fel rhan o'i gabinet newydd wythnos ddiwethaf, gan olynu Syr Robert Buckland.
Dyma yw'r trydydd gwleidydd i gamu i'r rôl ers mis Gorffennaf pan ymddiswyddodd Simon Hart mewn gwrthwynebiad i arweinyddiaeth Boris Johnson.
Mae David TC Davies wedi cynrychioli etholaeth Mynwy yn Nhŷ’r Cyffredin ers 2005.