Newyddion S4C

Dathlu’r Deugain: Beti George yn ail-ymweld â phlant y Sianel

01/11/2022

Dathlu’r Deugain: Beti George yn ail-ymweld â phlant y Sianel

Wrth i S4C gyrraedd 40 oed, mae'r cyflwynydd Beti George wedi bod yn ail-ymweld â rhai o'r plant sydd yn rhannu eu dyddiad geni â'r sianel. 

Mae'r cyflwynydd eisoes wedi cwrdd â phlant ar draws Cymru gafodd eu geni'r un adeg ag S4C, yn rhan o ddathliadau pen-blwydd y sianel yn 10, 20 a 30 oed. 

Ar ôl trafod eu gobeithion ar gyfer y dyfodol ar y pryd, fe fydd Beti yn ail-ymweld â rhai o'r plant yn ystod pennod arbennig o 'Plant y Sianel.' 

Un ohonyn nhw yw Michael Taggart, sydd wedi gorfod ail-adeiladu ei fywyd yn ystod y ddegawd ddiwethaf. 

Yn 1998, pan roedd Michael yn 15 oed, cafodd ei fam ei llofruddio gan ei lystad, gan chwalu ei fywyd yn llwyr. 

Pan gwrddodd Beti â Michael ddegawd yn ôl, roedd o'n gweithio gyda'r heddlu yn ymateb i alwadau brys. 

Mae bellach yn arwain tîm sydd yn arloesi ym maes atal trais yn y cartref, ac yn gobeithio y gall atal trasiedi fel yr un a ddioddefodd ei deulu. 

Eleni fe dderbyniodd anrhydedd yr MBE ar gyfer ei waith i helpu dioddefwyr trais domestig. 

"Mae’n rhywbeth sydd yn empowering, i fynd mewn a gallu helpu rhywun sydd angen help ma.

"A dwi meddwl pe bai rhywun di neud yr un peth i mam."

'Bywyd gwahanol'

Un arall o 'Blant o Sianel' y mae Beti yn ei gwrdd yw Karl Jones. Ugain mlynedd yn ôl, roedd ei fywyd yn llawn perygl wrth iddo weithio gyda'r Llynges yn Irac ac Afghanistan. 

Symudodd i weithio fel  gwarchodwr personol, gan ddod yn agos iawn at farwolaeth sawl tro, gydag un digwyddiad erchyll pan ffrwydrodd bws yn agos i'w gerbyd. 

Dgeng mlynedd wedi i Karl siarad â Beti ddiwethaf, mae bywyd wedi tawelu ychydig iddo. Mae wedi symud i Baris gyda'i wraig a'u dau o blant, a bellach yn gweithio yn y diwydiant diogelwch. 

"Dwi’n mynd adre bob dydd, cael coffi a croissant efo fy ngwraig. Dwi’n hoffi mynd i’r parc efo Rio a dwi’n hoffi chwarae ar y cyfrifiadur efo Rocco.

"Mae’n fywyd gwahanol ond dwi ddim yn meddwl bo fi wedi newid.”

Mae Karl a Michael ymhlith nifer o gyfranwyr y mae Beti George yn eu cwrdd ar y rhaglen, gan rannu eu hanesion. 

Gwyliwch Plant y Sianel ar S4C nos Fawrth am 21:00, ac yna ar S4C Clic neu'r iplayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.