Newyddion S4C

Ysgolion Powys i ystyried dysgu ar-lein unwaith yr wythnos i ddelio â chostau ynni

ITV Cymru 01/11/2022
Dosbarth ysgol

Gallai rhai ysgolion ym Mhowys gadw draw o'r ystafell ddosbarth a dysgu ar-lein am ddiwrnod bob wythnos mewn ymgais i ddelio â’r cynnydd mewn cost ynni. 

Rhai opsiynau eraill sy’n cael eu hystyried ar gyfer ysgolion y sir yw caniátau i ddisgyblion wisgo cotiau yn y dosbarth, a pheidio â llenwi swyddi dysgu gwag - lle gall dyletswyddau gael eu trosglwyddo i athrawon presennol yn y byrdymor. 

Cafodd y syniadau eu codi mewn sesiwn friffio i benaethiaid lle dywedodd y cyngor ei fod yn “ystyried pob opsiwn ar gyfer arbedion posib”.

Eglurodd yr aelod o'r cabinet sy'n gyfrifol am addysg Pete Roberts, fod gan ysgolion y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ac na fyddai "cyfarwyddyd clir" yn cael ei osod ar gyfer y cynlluniau diweddaraf.

Yn ôl un o gynghorwyr y sir, Beverley Baynham, mae awgrymiadau swyddogion wedi eu cyflwyno ar sut i gyflawni arbedion ariannol

“Roedd yr awgrymiadau hyn yn cynnwys, plant yn gwisgo cotiau, peidio â llenwi swyddi gwag, dod o hyd i wirfoddolwyr i weithio mewn ysgolion, ystyried wythnos pedwar diwrnod gyda'r pumed diwrnod yn cael ei ddysgu yn ddigidol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Pete Roberts fod “pecyn cymorth ariannol” yn cael ei baratoi a’i rannu gydag ysgolion i gynorthwyo penaethiaid a llywodraethwyr wrth iddyn nhw ddygymod â materion ariannol.

“Yn y pen draw, penderfyniad a chyfrifoldeb y prifathro a chadeirydd y llywodraethwyr yw cyllideb yr ysgol ac nid yw’r un dull yn addas i bawb," meddai.

Dywedodd fod rhai disgyblion wedi bod yn gwisgo cotiau mewn dosbarthiadau dros y gaeafau diwethaf o ganlyniad i ffenestri’n cael eu hagor er mwyn dilyn canllawiau Covid. Gyda disgwyl i achosion Covid godi, dywedodd fod hyn “yn debygol o ddigwydd eto'r gaeaf hwn”.

Pwysleisiodd y Cynghorydd Roberts na fyddai gwirfoddolwyr yn addysgu plant: “Ni fyddem ar unrhyw adeg yn annog gwirfoddolwyr i gymryd lle athrawon i ddysgu ein plant.

"Mae’r cynnig i beidio â llenwi swyddi gwag ond i’w ystyried, os gall y gwaith sy’n gysylltiedig â’r swydd honno gael ei wneud gan staff eraill yn y byr-dymor.”

Mae cynlluniau i leihau costau ysgol i rieni a theuluoedd hefyd yn cael eu hystyried yn genedlaethol. Mae'r rhain yn cynnwys cael gwared â logos ar wisg ysgol er mwyn galluogi teuluoedd i brynu dillad rhatach. 

Y gost gyfartalog i rieni ar gyfer gwisg ysgol yw £337 fesul plentyn ysgol uwchradd a £315 ar gyfer disgybl oedran ysgol gynradd, yn ôl Cymdeithas y Plant. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.