Hoff gymeriadau S4C yn cwffio ?
Hoff gymeriadau S4C yn cwffio ?
Ydych chi erioed wedi meddwl pwy fyddai'n ennill mewn brwydr rhwng y Dewin Dwl a Wali Tomos? Mae animeiddiad S4Cwffio wedi gosod hoff gymeriadau S4C ar hyd y blynyddoedd yn erbyn ei gilydd i ddarganfod yr enillydd.
Gruffydd Siôn Ywain, cyfarwyddwr creadigol ac enillydd y Fedal Drama Eisteddfod Genedlaethol eleni, sydd wedi creu'r animeiddiad ar ei liwt ei hun, gan gynnwys cymeriadau mwyaf eiconig rhaglenni S4C, dros y 40 mlynedd ddiwethaf.
Yn yr animeiddiad, mae'r cymeriadau yn brwydro yn erbyn ei gilydd mewn lleoliadau sy'n ymddangos yn rhaglenni S4C, sy'n cynnwys Glanrafon o Rownd a Rownd a Chwmderi o Pobol y Cwm.
Bydd yr enillydd o blith yr holl gymeriadau yn cael brwydro yn erbyn y 'bos mawr', Beti George.
Mae Gruffydd wedi dechrau cyfres o arolygon ar Twitter, yn gofyn pwy fyddai'n debygol o ennill.
Beth am sortio hyn unwaith ac am byth.
— Gruffydd Siôn Ywain (@gruffydd_sion) November 1, 2022
S4Cwffio - Rownd 1
Smotyn (o Swperted) v Diane Ashurst (o Bobol y Cwm)
Pwy sy'n ennill? Fotiwch isod. pic.twitter.com/KIakr1dfSb
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Gruffydd ei fod wedi dechrau ar y prosiect ar ddechrau pandemig Covid-19 trwy wneud model 3D o dafarn Pobol y Cwm, Y Deri Arms.
Ychwanegodd ei fod wedi meddwl am y syniad o greu S4Cwffio, wrth i benblwydd y sianel yn 40 agosáu.
"Gyda phen-blwydd mawr S4C yn prysur nesáu daeth yn amlwg beth fyddai fy nghamau nesa. Beth fyddai’n digwydd petai Sali Mali, Wali Tomos, Kay Kabs a Beti George i gyd yn yr un ystafell? 'Wn i ddim, ond mae animeiddio pobol yn ymladd yn dipyn haws na’u hanimeiddio yn siarad felly S4Cwffio amdani!
"Erbyn i’r clo mawr ddod i ben a’n galluogi i mi fynd allan i chware unwaith eto, roedd modelau 3D cyflawn o Stryd Fawr Cwmderi, Gwlad y Rwla, cae pêl-droed Bryncoch a set Rownd a Rownd wedi eu cwblhau ynghyd â chriw lliwgar o gymeriadau mwyaf difyr 40 mlynedd gynta’r sianel yn barod i frwydro."
Gyda'r animeiddiad eisoes wedi ennyn diddordeb ar y cyfryngau cymdeithasol, a fyddai Gruffydd yn awyddus i ddatblygu hon yn gêm y mae modd ei chwarae?
"Dwi’n amau byddai gwneud gêm all bobol chware tu hwnt i’n sgiliau i, os nad oes 'na glo mawr arall i’n nghadw fi’n glwm i’r cyfrifiadur. Ond dwi’n siŵr mod i ddim ar ben fy hun yn meddwl byddai gêm fel hyn yn lot o sbort.
"Pa ffordd well i ddathlu’r sianel wedi’r cyfan, nac i ymgynnull gyda ffrindiau a malu’ch gilydd ar ffurf eich hoff gymeriadau? Efallai at y pen-blwydd yn 50?"