Matt Hancock yn colli'r chwip Ceidwadol dros adroddiadau y bydd ar I'm a Celebrity

Mae Matt Hancock wedi colli'r chwip Ceidwadol yn dilyn adroddiadau ei fod yn ymuno â'r gyfres I'm a Celebrity...Get Me Out of Here.
Fe wnaeth The Sun adrodd fore Mawrth bod cyn-Ysgrifennydd Iechyd Lloegr yn ymuno gyda'r gyfres fel eu deuddegfed cystadleuydd.
Yn dilyn yr adroddiad roedd y chwip Ceidwadol wedi cymryd oddi wrtho.
Dywedodd Prif Chwip y Blaid Geidwadol, Simon Hart, sydd hefyd yn cynrychioli etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, ei fod wedi siarad â Mr Hancock.
"Yn dilyn trafodaeth gyda Matt Hancock, dwi wedi ystyried y sefyllfa ac yn credu bod hwn yn fater digon difrifol i'r chwip cael ei gymryd oddi wrtho yn syth," meddai.
Darllenwch fwy yma.