Y Swyddfa Gartref angen 'mynd i'r afael' â methiannau canolfan fudwyr Manston
Mae'n rhaid i'r Swyddfa Gartref "fynd i'r afael â" methiannau sylweddol canolfan fudwyr Manston, yn ôl arolygiad o'r safle yng Nghaint.
Fe wnaeth yr Arolygiaeth Carchardai ymchwilio i safonau'r ganolfan ym mis Gorffennaf eleni, ond mae'r safle wedi dod o dan straen ychwanegol dros y dyddiau diwethaf.
Mae'r adroddiad yn nodi bod y ganolfan yn addas i gartrefi mudwyr yn ystod ei 24 awr cyntaf yn y wlad, wrth i'w gwaith papur cychwynnol gael ei brosesu, a bod yna le ar gyfer tua 1,000 o bobl yno.
Ond dros y dyddiau diwethaf, mae'r nifer o fudwyr yn y ganolfan wedi cynyddu i tua 4,000. Dywed yr adroddiad fod y ganolfan yn wynebu "heriau sylweddol" i ymdopi gyda chynifer o bobl.
Yn ôl yr Arolygiaeth, er bod yna fynediad at fwyd, dwr, cawodydd a thoiledau yn y ganolfan, nid oes gwelyau neu fannau awyr agored ar gyfer ymarfer corff ar gael.
Mae prinder staff hefyd yn golygu nad yw'r holl lety yn y ganolfan ar agor, sydd wedi arwain at sefyllfa lle mae rhai mudwyr yn cysgu ar y llawr ar ôl dros 30 awr o aros i gael eu ceisiadau wedi'u prosesu.
Nododd yr arolygiad hefyd nifer o fethiannau o ran rheolaeth y ganolfan, gydag adroddiadau o fudwyr yn cael eu hatal rhag defnyddio ffonau symudol i gysylltu â'u teulu a hefyd yn cael eu rhwystro rhag cau drysau i doiledau yn llawn.
Mae'r Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman, wedi dod o dan bwysau cynyddol yn sgil y datblygiadau yn y ganolfan, gyda honiadau ei bod wedi rhwystro mudwyr rhag cael eu symud i westai.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Llun, gwadodd Ms Braverman ei bod wedi "anwybyddu cyngor cyfreithiol" a'i bod wedi "gweithio'n galed i ddarganfod llety i leddfu'r pwysau ar Manston".
Er hyn, ychwanegodd fod y nifer o fudwyr yn croesi'r sianel yn ei gwneud hi "bron yn amhosib" i ddarparu digon o lety.