Rhybudd melyn am law dros nos ar hyd a lled Cymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm dros ran helaeth o Gymru.
Mae'r rhybudd yn para rhwng 20:00 nos Lun ac 8:00 fore Mawrth.
Bydd yn effeithio ar y rhan fwyaf o siroedd Cymru ag eithrio Ynys Môn, Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe.
Mae disgwyl i'r ardaloedd oddi mewn i'r rhybudd melyn weld 20 i 30mm o law dros gyfnod o ddwy i deirawr. Ond fe allai 40 i 50mm o law gwympo mewn rhai ardaloedd.
Gallai cartrefi a busnesau gael eu difrodi yn sgil llifogydd ac mae yna rybuddion am golli pŵerm yn ôl y Swyddfa Dywydd. .
Maen nhw hefyd yn rhybuddio am amodau gyrru gwael ac y gallai hyn effeithio ar wasanaethau trên a bws.