Newyddion S4C

Arestio dyn ar amheuaeth o dwyll fel rhan o ymchwiliad i ddwyn car rali

31/10/2022
car wedi ei ddwyn

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi arestio dyn fel rhan o'u hymchwiliad i ladrad car rali yn Sir Gaerfyrddin. 

Fe gafodd apêl am wybodaeth ei lansio gan yr heddlu ar ddechrau mis Hydref yn dilyn adroddiad fod y car wedi ei ddwyn o garej yn Nhrefach Felindre ger Llandysul. 

Dywedodd yr heddlu fod y car wedi cael ei ddarganfod ychydig o ddyddiau yn ddiweddarach mewn coedwig yng Nghastell Newydd Emlyn. 

Bellach mae dyn wedi'i arestio ar amheuaeth o dwyll mewn cysylltiad â'r achos. 

Cafodd y dyn ei arestio ddydd Gwener, 31 Hydref, ac mae bellach wedi'i ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.