Rhybudd am effaith chwyddiant ar drothwy pen-blwydd S4C
Rhybudd am effaith chwyddiant ar drothwy pen-blwydd S4C
Ar drothwy pen-blwydd S4C yn 40 oed, mae Cadeirydd y sianel wedi rhybuddio am effaith chwyddiant ar eu dyfodol.
Yn ôl Rhodri Williams, mae'n mynd i gael effaith ar faint o gynnwys y bydd modd i S4C brynu gan y sector gynhyrchu.
Yn y cyfamser, mae Cadeirydd pwyllgor diwylliant y Senedd wedi dweud ei bod yn poeni am effaith hynny ar swyddi yn y sector.
Mae S4C wedi bod yn helpu i gynnal yr iaith ac wedi gwneud cyfraniad mawr i economi Cymru ers 40 mlynedd, ond tra bod y cadeirydd, Rhodri Williams yn hyderus am y dyfodol mae e hefyd yn cydnabod fod chwyddiant yn broblem.
"Ry ni'n lwcus ar un ystyr fod ein harian ni sy'n dod o ffî'r drwydded yn sicr am y bum mlynedd nesaf ond pan gafodd hynny ei gytuno, doedd chwyddiant ddim unrhywle'n agos i'r hyn yw e heddi.
"Dy'n ni ddim wedi cwblhau ein hasesiad ni o'r effaith bydd hynny'n cael ar ein cynnwys ni ond yn sicr maen mynd i gael effaith andwyol ar faint byddwn ni'n gallu prynu gan ein cyflenwyr"
2,229 o swyddi
Yn ol ymchwil diweddar ar ran y sianel fe gyfrannodd hi £141 miliwn i economi Cymru yn 2019-20
Mae hi'n helpu i gynnal 2,229 o swyddi, ac mae nifer o'r rheiny yn swyddi o fewn cwmniau cynhyrchu annibynol ar draws y wlad.
Fe ddywedodd 61% o'r cwmniau rheiny fod S4C yn cael effaith cadarnhaol sylweddol ar eu trosiant.
Wrth reswm felly, mae nifer ohonyn nhw'n poeni.
Dyfrig Davies yw cadeirydd y corff sy'n cynrychioli'r cwmniau, sef Teledwyr Annibynol Cymru (TAC).
"Yn syml iawn ry' ni'n cytuno ar gyllideb ac yn gweithoi i'r gyllideb hwnnw. Os yw costau'n cynyddu ar ol cytuno, ni'r cwmniau sy'n gorfod derbyn yr hit ar hynna"
Mae Cadeirydd pwyllgor diwylliant y Senedd, Delyth Jewell yn poeni y bydd y sefyllfa'n cael effaith ar swyddi.
"Maen mynd i gael effaith ar swyddi ac ar y sector. Pan ni'n ystyried y ffaith fod yr arian mae S4C yn ei gael wedi gostwng 30% ers 2010. Mae'r cyd-destun yn barod yn un o sialensau. Mae'r effaith mae chwyddiant yn mynd i gael ar hynna, dwi'n poeni a bydd y pwyllgor eisiau edrych ar y ffaith fod hyn yn mynd i gael effaith ar swyddi"
"Does dim chwaith modd osgoi'r ffaith fod Llywodraeth San Steffan wedi bod yn trafod cael gwared â ffî drwydded y BBC, sy'n cyfrannu bron i £89 miliwn at goffrau S4C yn flynyddol."
Mae Roy Roberts yn gyn-bennaeth ar y BBC yn Lloegr: "Maen nhw di neud yn glir yn barod nad oes dyfodol i'r trwydded deledu, felly y posibiliadau yw grant uniongyrchol ond mae hynny'n reit anhebyg ar hyn o bryd gyda'r problemau economaidd.
"Un posibilrwydd efallai yw ychwanegu ariannu'r BBC ac S4C at drethi arall, ond a fyddai hynny'n dderbyniol?"
Llywodraeth yn cefnogi S4C
Mae Llywodraeth San Steffan yn mynnu y byddan nhw'n parhau i gefnogi'r sianel.
Mae David TC Davies newydd ei benodi'n Ysgrifennydd Cymru, ac fe ddywedodd ei bod yn "hynod o bwysig i fi bod nhw'n cael digon o arian i barhau i gynnig gwasanaeth arbennig i siaradwyr yr iaith yng Nghymru a dwi'n deall pa mor bwysig yw e i'n cefndir diwyllianol"
Mae tirlun darlledu yng Nghymru yn newid ar gyflymder mawr a heriau'r oes ddigidol yn pentyrru.
Hyd yn oed yn wyneb heriau heddiw, mae S4C yn hyderus ynglyn a'r dyfodol.