Newyddion S4C

Jonathan Pryce yn dweud nad yw'n frenhinwr ar drothwy cyfres newydd The Crown

Jonathan Pryce
Jonathan Pryce

Gyda chyfres newydd The Crown yn cael ei darlledu ar 9 Tachwedd, mae Jonathan Pryce wedi dweud nad yw'n frenhinwr ac roedd yn "amharod i wylio" y gyfres pan gafodd ei rhyddhau y tro cyntaf.

Mae'r actor 75 oed o Sir y Fflint yn portreadu'r Tywysog Philip yn y gyfres newydd ar Netflix.

Wrth drafod ei benderfyniad i chwarae'r Tywysog Philip, dywedodd: "Roeddwn i'n gwybod yn barod bod y gyfres yn dda, dwi wedi ei gwylio hi ers y dechrau, er roeddwn i'n amharod i'w gwylio ar y cychwyn.

"Dwi ddim yn frenhinwr, ac roeddwn i'n meddwl byddai braidd dim diddordeb yn y teulu brenhinol ond roedd fy ngwraig Kate a finne wedi penderfynu gwylio'r gyfres. Ar ôl gwylio un bennod roeddem wedi troi at ein gilydd a dweud, "dyle ni wylio un arall?" Roedd y ddau ohonom yn hooked."

Wrth egluro'r teimlad o bortreadu'r Tywysog, dywedodd yr actor bod ganddo ddelwedd o Philip fel dyn yn y cefndir i ddechrau ac wedi dod i'r amlwg yn hwyrach yn ei fywyd.

"Wrth i amser fynd yn ei flaen, roedd pobl yn sylwi arno'n fwy, ac yn sicr yn mynd yn fwy hoff ohono, hyd at y diwedd. Dwi'n meddwl bod cast yr hen gyfresi wedi cael swydd haws, achos nad oedd y cyfnodau hynny yn agos i atgofion pobl. "

Mae'r gyfres newydd wedi cael ei beirniadu gan enwogion fel yr actores Y Fonesig Judi Dench a'r cyn-brif weinidog Syr John Major oherwydd y straeon ynddi, gyda dadleuon nad yw hynny'n agos at y gwirionedd.  

Mae Netflix wedi cael galwadau i osod rhybudd ar ddechrau pob pennod i nodi bod The Crown yn "ddrama ffuglennol."

Mae Netflix eisoes yn disgrifio'r rhaglen fel "drama ffuglennol" yn eu datganiadau i'r wasg, ar gyfryngau cymdeithasol ac ar dudalen The Crown ar Netflix.

Mae Jonathan Pryce yn meddwl bod gan y gyfres y gallu i wneud i bobl edrych tu ôl i'r llen ar fywydau'r teulu brenhinol.

"Bydde fe'n ddi-werth os oeddech chi'n gweld nhw'n gwneud eu dyletswyddau brenhinol a ddim yn gwybod beth yr oeddent yn meddwl "

"Mae'n ddiddorol, ond dylwn ni bob tro cofio mai drama ydi hi. Dwi'n gobeithio bod hi'n barchus i'r bobl go iawn ni'n portreadu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.