Problemau technegol i rai defnyddwyr Instagram
31/10/2022
Mae rhai defnyddwyr y cyfrwng Instagram wedi cael problemau technegol wrth geisio cael mynediad i'w darpariaeth ar y we brynhawn ddydd Llun.
Dywedodd nifer o bobl ar gyfryngau cymdeithasol eu bod nhw methu cael mynediad i'w cyfrif.
Mae rhai pobl yn cael neges yn dweud bod eu cyfrif wedi ei ddileu wrth iddynt lwytho'r ap.
Dywedodd Instagram: "Rydym yn ymwybodol bod rhai defnyddwyr yn wynebu problemau wrth gael mynediad i'w cyfrifon Instagram. Rydym yn ymchwilio i'r broblem ac yn ymddiheuro."