Ailwampio Yma o Hyd fel cân swyddogol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd
Mae Yma o Hyd, wedi'i hailwampio i fod yn gân swyddogol tîm pêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.
Mae'r gân eiconig gan Dafydd Iwan ac Ar Log wedi datblygu i fod yn anthem answyddogol cefnogwyr y Wal Goch ar y daith i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Ond y tro hyn bydd lleisiau aelodau'r Wal Goch yn ymuno â Dafydd Iwan ar gyfer y fersiwn newydd hon o Yma o Hyd.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi datgelu bod meicroffonau cudd wedi eu gosod yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y gemau ail-gyfle yn erbyn Awstria ac Wcráin, gan gasglu miloedd o leisiau yn canu ochr yn ochr â Dafydd Iwan.
Mae'r fersiwn newydd hefyd yn cynnwys lleisiau'r chwaraewyr, a gafodd eu casglu yn ystod y dathliadau ar y cae yn dilyn y fuddugoliaeth dros Wcráin.
Wrth gyflwyno'r fersiwn newydd o'i gân enwocaf, dywedodd Dafydd Iwan ei bod yn fraint i weld Yma o Hyd yn cael ei defnyddio gan Gymru.
"Mae’n freuddwyd amhosib wedi dod yn wir, ac y mae sain rhyfeddol y Wal Goch ar y trac newydd yn gyffrous ac ysbrydoledig.
"Mae’r fersiwn yma o Yma o Hyd yn cofnodi achlysur arbennig iawn yn hanes Cymru, pan wnaeth angerdd lleisiau gwych y cefnogwyr helpu Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd.
“Ni fydd gan unrhyw genedl arall ddim tebyg i hyn i ysbrydoli eu tîm ar y llwyfan mwyaf yn y byd."
Fe fydd y fideo swyddogol o'r recordiad yn cael ei ryddhau ar sianeli digidol Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar 7 Tachwedd. Ar yr un pryd, fe fydd y trac ar gael i ffrydio'n ddigidol ar y prif blatfformau.
Yr wythnos ganlynol, bydd cwmni recordiau Sain yn rhyddhau fersiwn ar CD a fydd hefyd yn cynnwys recordiad o’r Wal Goch yn canu Hen Wlad fy Nhadau, gydag unrhyw elw yn mynd tuag at adnoddau pêl-droed llawr gwlad.