Ffrwydradau wedi eu clywed ar draws Wcráin
31/10/2022
Mae ffrwydradau wedi eu clywed ar draws Wcráin, gan gynnwys y brifddinas, Kyiv.
Daw hyn ddyddiau wedi i Rwsia roi'r bai ar Wcráin am ymosodiad drôn ar eu llynges yn y Môr Du.
Fe gafodd o leiaf 10 ffrwydrad ei glywed yn Kyiv a dywedodd maer dinas Kharkiv, Ihor Terekhov, fod dau daflegryn wedi eu tanio yno.
Dywedodd maer Kyiv, Vitali Klitschko, fod rhannau o'r ddinas wedi cael eu "hynysu" yn sgil ymosodiadau ar "gyfleusterau isadeiledd hanfodol" fore Llun.