O leiaf 132 wedi marw ar ôl i bont ddymchwel yn India
31/10/2022
Mae o leiaf 132 o bobl wedi marw ar ôl i bont ddymchwel yn nhalaith orllewinol Gujarat yn India ddydd Sul.
Mae swyddogion yn adrodd fod y bont wedi dymchwel gan nad oedd yn gallu cario pwysau'r dofr, gan arwain at cannoedd o bobl yn disgyn i’r afon Macchu yn nhref Morbi.
Roedd lluniau yn dangos pobl yn hongian oddi ar y bont oedd wedi suddo’n rhannol yn yr afon.
Daw’r digwyddiad ddyddiau ar ôl i’r bont ail-agor yn dilyn ei thrwsio.
Dywedodd prif weinidog India Narendra Modi ei fod wedi "ei dristau gan y trasiedi.”