Cymro wedi marw ar ôl disgyn i Afon Tafwys tra'r oedd ar alwad facetime gyda'i gariad

Bu farw dyn ifanc o Abertawe ar ôl iddo ddisgyn i mewn i Afon Tafwys yn Llundain tra'r oedd ar alwad facetime gyda'i gariad.
Roedd James East, 25 oed, yn dathlu penblwydd ei gariad yn 18 oed ar y noson cyn iddo farw.
Dangosodd canlyniad archwiliad post mortem fod Mr East wedi taro ei ben cyn disgyn i'r afon ac roedd yn farw cyn iddo daro'r dŵr.
Roedd yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Gŵyr ac yn gyn-fyfyriwr yn y London School of Economics.
Darllenwch ragor yma.