'Bomiau petrol wedi eu taflu' at ganolfan brosesu mudwyr yn Dover
Mae adroddiadau fod bomiau petrol wedi eu taflu at ganolfan brosesu mudwyr yn Dover, Caint.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad am ychydig wedi 11:20 fore dydd Sul, ar ôl i ddyn daflu dyfeisiadau at ganolfan brosesu'r Viaduct.
Dywed Heddlu Caint fod un dyn wedi ei anafu yn ystod y digwyddiad.
Mae asiantaeth newyddion Reuters yn adrodd fod y dyn oedd yn gyfrifol am daflu'r dyfeisiadau wedi lladd ei hun, ond nid yw'r heddlu wedi cadarnhau hyn.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: “Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad yn Western Jet Foil, Dover, ac mae’r heddlu’n bresennol.
“Ni fyddai’n briodol gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.”
Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân ac Achub Caint fod eu criwiau wedi diffodd tanau yn y lleoliad.
Dywedodd Nathalie Elphicke, AS Ceidwadol Dover, ei bod hi wedi cael “sioc enbyd” o glywed y newyddion.