Galw am ymchwiliad i adroddiadau fod ffôn Liz Truss wedi ei hacio gan Rwsia
Mae na alwadau ar Llywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad brys yn dilyn adroddiadau bod ffôn Liz Truss wedi’i hacio gan asiantaeth cudd-wybodaeth Rwsia.
Yn ôl adroddiad gan The Mail on Sunday fe ddaeth swyddogion o hyd i'r wybodaeth pan yr oedd Ms Truss yn Ysgrifennydd Tramor ar y pryd, ac yn y ras i arwain y Ceidwadwyr yn ystod yr haf.
Fe honnir fod y prif weinidog ar y pryd, Boris Johnson, ac Ysgrifennydd y Cabinet Simon Case, wedi atal unrhyw wybodaeth am yr achos i gael ei ryddhau.
Mae amheuon fod ysbiwyr oedd yn gweithio i Rwsia wedi cael gafael ar wybodaeth sensitif, gan gynnwys trafodaethau am ryfel Wcráin gyda swyddogion tramor, meddai’r papur newydd.
Mae'r Mail on Sunday hefyd yn honni fod sgyrsiau preifat rhwng Ms Truss a Kwasi Kwarteng yn beirniadu Mr Johnson wedi cyrraedd yr hacwyr, gan eu gadael mewn perygl o flacmel.
Galwadau am ymchwiliad
Mae’r gwrthbleidiau wedi galw am ymchwiliad i’r ymosodiad seibr honedig, ac fe fydd yn codi cwestiynau am ddiogelwch y DU, yn ogystal â camau Mr Johnson a Mr Case yn yr achos.
Dywedodd Ysgrifennydd Cartref cysgodol Llafur, Yvette Cooper: “Mae materion diogelwch cenedlaethol hynod o bwysig yn codi yn sgil ymosodiad fel yr un yma gan wladwriaeth elyniaethus, ac fe fyddant yn cael eu cymryd o ddifrif gan ein hasiantaethau cudd-wybodaeth a diogelwch.
“Mae yna hefyd gwestiynau diogelwch difrifol ynghylch pam a sut mae’r wybodaeth yma wedi’i ryddhau hefydy ac mae’n rhaid ymchwilio iddynt ar frys.
“Mae’n hanfodol bod yr holl faterion diogelwch hyn yn cael eu hymchwilio ac yn cael sylw ar y lefel uchaf un ac mae angen i ni wybod bod y Llywodraeth yn cydnabod difrifoldeb hyn a phwysigrwydd amddiffyn ein diogelwch cenedlaethol yn llawn.”
Dywedodd llefarydd materion tramor y Democratiaid Rhyddfrydol Layla Moran: “Mae angen ymchwiliad annibynnol brys i ddarganfod y gwir. A gafodd ffôn Liz Truss ei hacio gan Rwsia, ac oedd yna flacowt newyddion, ac os felly pam?"
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Nid ydym yn gwneud sylw ar drefniadau diogelwch unigolion.
“Mae gan y Llywodraeth systemau cadarn ar waith i amddiffyn rhag bygythiadau seiber. Mae hynny’n cynnwys sesiynau briffio diogelwch rheolaidd i Weinidogion, a chyngor ar ddiogelu eu data personol a lliniaru bygythiadau seiber.”