Cymru allan o Gwpan y Byd wedi crasfa yn Seland Newydd
Cymru allan o Gwpan y Byd wedi crasfa yn Seland Newydd
Mae tîm rygbi menywod Cymru allan o Gwpan y Byd ar ôl colli i Seland Newydd o 3-55 yn rownd yr wyth olaf yn Whangārei fore dydd Sadwrn.
Fe sgoriodd y Rhedyn Duon naw o geisiau yn y gêm gyda Chymru’n llwyddo i sgorio cic gosb yn unig.
Fe sgoriodd Seland Newydd bedwar cais yn yr hanner cyntaf gan Portia Woodman, Rubi Tui, Sarah Hirini ac Amy Rule - gyda Ruahei Demant yn trosi tri.
Cic gosb gan y mewnwr Keira Bevan oedd unig sgôr Cymru yn y 40 munud cyntaf gyda phencampwyr y byd yn arwain o 26-3 ar yr egwyl.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru ar ddechrau’r ail hanner wrth i Woodman groesi ar y dde am ei hail a phumed cais Seland Newydd. Gyda Demant yn trosi roedd y tîm cartref 33-3 ar y blaen bellach.
Daeth chweched cais i Seland Newydd gan yr eilydd o fachwr yn dilyn hyrddiad gan y blaenwyr.
Fe dderbyniodd canolwr Cymru Carys Williams-Morris gerdyn melyn am dacl beryglus gydag 20 munud yn weddill, ac fe ymunodd Lleucu George â hi yn hwyrach am drosedd broffesiynol.
Daeth ceisiau ychwanegol i Seland Newydd yn yr ail hanner gan Alana Bremner, Luka Connor a Ruahei Demant.
Y sgôr terfynol ar y chwiban olaf oedd Cymru 3-55 Seland Newydd.
Mae hyn yn golygu fod Cymru wedi ildio 19 o geisiau a 111 o bwyntiau yn erbyn Seland Newydd yn eu dwy gêm yn y gystadleuaeth.
Fe fydd Seland Newydd yn herio Ffrainc yn y rownd gynderfynol ddydd Sadwrn 5 Tachwedd.
Ar ôl y gêm dywedodd maswr Cymru Elinor Snowsill: "Mae pob gêm ‘di bod yn sialans a ’di bod yn rili gorfforol. Ni ‘di paratoi ein hunain ar gyfer e’n dda a ie, jyst yn prowd o’r ffordd ni ‘di stico ‘da’n gilydd fel tîm.
"Ma’ bendant ardaloedd ma’ rhaid i ni weithio ar ar ôl Cwpan y Byd ond ‘ma ardaloedd hefyd gallwn ni fod yn prowd iawn o."
Llun: Asiantaeth Huw Evans