Newyddion S4C

Teyrnegd i feiciwr fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhort Talbot

28/10/2022
Michael Blake

Mae teulu beiciwr fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhort Talbot wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Michael Blake, 38, mewn gwrthdrawiad gyda Vauxhall Astra ddydd Iau am 06:40 ar Ffordd Cwmafan wrth gyffordd London Row.

Roedd Michael yn wreiddiol o Gasnewydd ond yn byw yn ardal Taibach ym Mhort Talbot. Mae ei bartner Michelle wedi ei ddisgrifio fel dyn "â chalon wedi gwneud o aur."

"Roedd gan Michael bersonoliaeth wych... tu ôl i ddrysau caeedig roedd â chalon wedi ei gwneud o aur. Byddai'n fodlon gwneud unrhywbeth i mi beth bynnag yr oeddwn yn ei ofyn. Roedd yn caru'r awyr agored, pysgota, gwersylla a reidio ei feic."

Ychwanegodd y byddai ei holl deulu'n ei golli'n fawr a fod wi farwolaeth wedi "gadael bwlch yn ein calonnau na fydd fyth yn cael ei lenwi."

Cafodd dyn 33 oed o Faesteg ei arestio a'i ryddhau gan yr heddlu wrth i'r ymchwiliad i'r digwyddiad barhau.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am unrhyw dystion a welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200363911.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.