Galar teuluol yn newid perspectif ar fywyd i chwaraewr pêl-droed

Galar teuluol yn newid perspectif ar fywyd i chwaraewr pêl-droed
Mae chwaraewr Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon, Dion Donohue, wedi dweud fod galar teuluol wedi newid ei bersbectif ar fywyd.
Fe gafodd merch ei chwaer, Ania, ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd nad oedd modd ei drin, a bu farw yn bump oed ym mis Gorffennaf.
Rhoddodd Dion y gorau i chwarae pêl-droed yn broffesiynol gyda Swindon yn 27 oed, gan symud yn ôl i Ynys Môn i fyw a chwarae rhan-amser i Gaernarfon.
"Gath hogan bach chwaer fi terminal tumour, so unwaith glywish i hwnna, o'n i isio dod adra at teulu a plant fi fy hun 'chos pan ti'n clywad petha fel 'na, toes na'm byd fwy pwysig na teulu so nath football jyst cymryd back seat.
"Unwaith gesh i'r bad news, yr unig beth o'n i isio neud odd dod adra."
Wrth edrych yn ôl ar y blynyddoedd diwethaf, dywedodd Dion fod y cyfnod wedi "rhoi bob dim mewn i perspectif. Does na'm pwynt poeni am petha' gwirion, pan ma' rwbath fel 'na yn digwydd i chdi, toes na'm byd arall yn bwysig rili.
"Ma' 'di neud fi sylwi na rownd teulu tisho bod mwy na 'dach chi'n wbod weithia."