
Galw am grwpiau cymorth yn y Gymraeg i bobl sydd ag atal dweud
Galw am grwpiau cymorth yn y Gymraeg i bobl sydd ag atal dweud
Mae merch ifanc o Gaernarfon eisiau gweld mwy o gymorth i bobl sydd ag atal dweud drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae gan Megan Crew, sydd yn 17 oed, atal dweud ac er iddi gael sesiynau lleferydd yn y Gymraeg mae hi’n derbyn cymorth pellach gan gynllun Saesneg byd-eang, y 'McGurie Programme' yn ddyddiol.
Drwy’r grŵp mae Megan wedi cyfarfod pobl ar draws y byd sydd ag atal dweud ond fe fyddai grŵp tebyg yn y Gymraeg yn fuddiol meddai.
“Yn y gorffennol dwi wedi neud sesiynau a therapi lleferydd yn Ysbyty Gwynedd. Ond dwi ddim yn meddwl bod yna grwpia sydd yn benodol i Gymru,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Ac o be' dwi wedi gweld o siarad Cymraeg a Saesneg, dwi’n cael hi’n anodd yn y ddwy iaith yn gyfartal. Ond yn enwedig yn y Gymraeg, mae yna eiriau sydd anodd i ddweud ac yn hir ac yn eiriau llawn ceg mae pawb yn stryglo i ddweud.
“Dwi’n meddwl bysa fo’n grêt os fysa ‘na ryw fath o gymuned yn Gymru lle dwi’n gallu siarad ac ymarfer yn yr iaith dwi’n siarad yn ddyddiol.”

Mae atal dweud yn effeithio ar 5% o blant ifanc, ac fe fydd un o bob 100 yn parhau i fyw gydag atal dweud hirdymor.
“Dwi’n gwybod be dwi isio ddweud pan dwi’n siarad, yn y pen ma’ bob dim yn swnio yn iawn, ond pan dwi’n trio deud o ma'na fatha bloc, mae o fel bod ‘na dâp ar ceg fi sy’n stopio fi rhag deud y geiriau.
“Ma’ atal dweud yn dangos fel symptom pan yn ifanc a weithia mae plant yn gallu tyfu allan o honno fo. Ond nes i ddim yn anffodus.
“Mae o yn rhwystredig achos weithia ti’n gallu deud pethau yn hollol oce ac wedyn ar adegau mae o yn gallu bod yn amhosib deud gair. Mae’r inconsistency o honna fo yn cael effaith arna fi.”
Atal dweud a iechyd meddwl
Yn ogystal â’r rhwystredigaeth, mae’n gallu cael effaith fawr ar iechyd meddwl y person sydd yn byw gyda'r cyflwr.
“Dwi ddim yn meddwl bod pobl yn deall y social anxiety sy’n dod efo atal dweud. Dwi wedi dod adra o’r ysgol ar ôl bod efo ffrindiau a bod yn rili upset achos dwi’n gwybod dwi methu cyfrannu i’r drafodaeth.
“Pan ma’ hynna yn digwydd tro ar ôl tro mae yn rili gal chdi lawr. A man neud chdi dowtio gallu chdi.”
Yn ddiweddar mae Megan wedi cynhyrchu podlediad yn ei hysgol sy’n trafod ei pherthynas â atal dweud.
Wrth siarad yn agored a chyflwyno gwybodaeth am y cyflwr drwy gyfrwng y Gymraeg mae Megan yn gobeithio bod yn “ffrind” i eraill sydd ag atal dweud yng Nghymru.
“Dwi’n gobeithio bydd podlediad fi yn helpu achos dwi’n gallu bod yn ffrind i berson dwi ddim yn nabod, ond ma’ nhw yn gwybod bo’ fi yn atal hefyd.”