Newyddion S4C

Apêl i ddarganfod 'miliynau o straeon arbennig' mewn archif ddigidol newydd

29/10/2022
Archifau Morgannwg

Mae apêl wedi ei chyhoeddi i adnabod aelodau cymunedau ledled Cymru drwy hanes er mwyn cyfoethogi archif luniau digidol newydd.

Mae partneriaid prosiect #CrowdCymru yn dweud bod "miliynau o gofnodion unigryw a straeon arbennig" i'w darganfod ond mae'n anodd eu hadnabod a'u darganfod.

Y bwriad yw y bydd gan y prosiect "amrywiaeth gyffrous" o gasgliadau, gan gynnwys Ffotograffau Cymuned Dociau Caerdydd.

Mae'r lluniau o'r gymuned sy'n cael ei hadnabod gan nifer fel "Tiger Bay" yn dyddio 'nôl i 1900-1920.

Mae'r portreadau wedi eu cadw yn Archifau Morgannwg ac yn olrhain hanes un o gymunedau amlddiwylliannol cyntaf y Deyrnas Unedig, gyda phobl o fwy na 50 o wledydd wedi ymgartrefu yno erbyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914.

Mae #CrowdCymru yn brosiect gwirfoddol sydd wedi ei ariannu gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac sy'n cael ei lansio ar y cyd gan Archifau Gwent, Archifau Morgannwg a Chasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.

Mae'r platfform digidol sy'n cynnal yr archif eisoes wedi ei sefydlu gan y Llyfrgell Genedlaethol ac mae'n galluogi gwirfoddolwyr i dagio, nodi a disgrifio lluniau a dogfennau digidol.

Gobaith y trefnwyr yw defnyddio gwybodaeth unigolion mewn cymunedau ar draws y wlad a thu hwnt i gyfoethogi treftadaeth ar gyfer y presennol ac i'r dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.