Joe Allen yn 'annhebygol' o chwarae i Abertawe cyn Cwpan y Byd
Mae prif hyfforddwr Clwb Pêl-droed Abertawe yn dweud ei bod hi'n "annhebygol" y bydd Joe Allen yn chwarae i'r clwb cyn Cwpan y Byd.
Fe wnaeth y chwaraewr canol cae ddioddef anaf i'w linyn gar tra'n chwarae i'r Elyrch ym mis Medi.
Wrth roi diweddariad ar ei garfan, dywedodd Russell Martin mai'r ffocws i Allen yw sicrhau ei fod yn iach ar gyfer y gystadleuaeth yn Qatar.
"Rydym yn cymryd ein hetiau Abertawe i ffwrdd nawr ac mae'n holl ffocws ar gael Joe yn barod i chwarae ar y llwyfan mwyaf gyda'i wlad.
"Bydd e'n gwneud popeth - fel byddwn ni hefyd - i gael e i Qatar."
Mae Allen wedi bod yn rhan allweddol o garfan Rob Page yn y daith i gyrraedd Cwpan y Byd cyntaf Cymru ers 1958, gan golli dim ond un gêm yn ystod yr ymgyrch ragbrofol.
Fe fydd y Wal Goch yn gobeithio y bydd y saib yn rhoi cyfle i Allen wella ac na fydd rhaid iddynt wylio'u Cwpan y Byd cyntaf heb y Xavi Cymraeg.
Llun: CPD Abertawe