Newyddion S4C

70 o bobl yn Rhondda Cynon Taf i gael eu sgrinio am y diciâu

28/10/2022
S4C

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud y bydd 70 o bobl yn ardal Rhondda Cynon Taf yn cael eu sgrinio am y diciâu yn dilyn achos mewn cysylltiad â thafarn y Welcome Inn yn Nhonypandy.

Mae'r corff sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn gweithio â Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar y mater.

Dywed y corff bod ymchwiliadau wedi dod â nifer o gysylltiadau agos i'r unigolyn, ac maen nhw wedi eu gwahodd i gael eu sgrinio.

Maen nhw'n ychwanegu fod y risg i'r cyhoedd yn gyffredinol yn isel.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn pwysleisio nad oes dim i awgrymu fod y person wedi dal y diciâu yn y dafarn, ond y gred yw eu bod wedi mynd i'r dafarn heb wybod fod yr haint ganddynt.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.