Galw am reolau llymach wedi cynnydd mewn fêpio gan ddisgyblion

Galw am reolau llymach wedi cynnydd mewn fêpio gan ddisgyblion
Mae pennaeth ysgol wedi galw am reolau llymach yn dilyn cynnydd yn y defnydd o fêps gan ddisgyblion.
Yn ôl astudiaeth newydd gan yr elusen The Mix, mae niferoedd y bobl ifanc sydd yn fepio wedi bron i dreblu dros y 12 mis diwethaf o 15% yn 2021 i 44% eleni.
Mae’r ystadegau hyn yn dod misoedd ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi uchelgais i gael Cymru ddi-fwg erbyn 2030.
Teclyn electronig sydd yn creu tarth trwy gynhesu hylif sydd fel arfer yn cynnwys nicotîn yw fêp.
Maen nhw ar gael i’w prynu mewn archfarchnadoedd a siopau fêp mewn amrywiaeth o liwiau, blasau a meintiau.
Wedi’u dyfeisio yn wreiddiol i helpu ysmygwyr roi’r gorau i’r arferiad, dywedodd Ethan Smith, perchennog siop fêp Rebel Vaper yn Llanelli, wrth ITV Cymru bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sydd yn fêpio sydd erioed wedi ysmygu o’r blaen, yn enwedig mewn plant.
“Mae plant yn dod mewn gyda IDs ffug...maen nhw hyd yn oed yn dod mewn gyda’u rhieni i geisio eu cael nhw i brynu rhai iddyn nhw. Maen nhw hefyd yn sefyll ar ddiwedd y stryd yn gofyn wrth bobl ddiethr i brynu rhai iddyn nhw,” meddai.
Ers 2015, mae hi wedi bod yn anghyfreithlon i werthu e-sigaréts i blant o dan 18 mlwydd oed yng Nghymru a Lloegr.
Yng Nghymru, mae gan bobl yr hawl i ddefnyddio fêp mewn mannau lle nad ydyn nhw’n cael ysmygu fel arfer er enghraifft ysgolion.
Er hynny, mae gan y rheiny sydd yn gyfrifol am yr ardaloedd di-fwg hyn yr hawl i wahardd y defnydd o fêps ar eu heiddo.
Wrth drafod gyda disgyblion Ysgol Bro Dinefwr, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford mai peidio â phasio mesur fyddai wedi gwahardd y defnydd o fêps mewn mannau cyhoeddus yn yr un modd â sigaréts tobaco yw “un o’r pethau mae e’n ei ddifaru mwyaf yn ei yrfa wleidyddol”.
Roedd Mr Drakeford wedi ceisio pasio’r mesur i roi “rheolaeth sylweddol ar y defnydd o fêps” pan oedd yn Weinidog iechyd, ond fe fethodd y mesur gan un bleidlais ar ddiwrnod olaf y tymor Seneddol yn 2016.
Dywedodd Mr Drakeford: “Roedd gennym ni’r cyfle i wneud rhywbeth yn wahanol yng Nghymru fyddai wedi diogelu pobl ifanc rhag peryglon fepio ac e-sigaréts.
"Rydym am fynd yn ôl i weld os ydyn ni’n gallu achub yr hyn wanethom ni golli, oherwydd mae’r dystiolaeth bod pobl ifanc yn cael eu tynnu i mewn i ddibyniaeth ar nicotîn yn frawychus.”
Dywedodd Trystan Wyn Sion, sydd yn Ymarferydd Ffordd o Fyw a Lles Iach gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda: “Mae nicotîn yn sylwedd y mae’n hawdd mynd yn gaeth iddo.
"Rydym ni yn gwybod ei fod yn cael effaith fawr ar yr ymennydd sydd yn datblygu a bod pobl ifanc yn fwy agored i ddibyniaeth nicotîn.”
Er hyn, yn ôl Ionwen Spowage, Prifathrawes Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo, nid yw plismona’r defnydd o fêps yn hawdd o fewn ysgolion.
“Mae disgyblion yn ceisio eu cuddio," meddai wrth ITV Cymru.