
Buddugoliaeth yn wyth olaf Cwpan y Byd 'yna os ni moyn e' i ferched Cymru
Buddugoliaeth yn wyth olaf Cwpan y Byd 'yna os ni moyn e' i ferched Cymru
Mae prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, Ioan Cunningham, yn dweud fod buddugoliaeth yn erbyn Seland Newydd yn wyth olaf Cwpan y Byd "yna os ni moyn e."
Mae Cymru yn wynebu clamp o her i aros yn y gystadleuaeth wrth iddynt wynebu un o'r ffefrynnau i godi'r tlws yn Whangarei fore dydd Sadwrn.
Fe wnaeth Cymru lwyddo o drwch blewyn i gyrraedd yr wyth olaf, wedi iddynt orffen yn drydydd yn eu grŵp.
Roedd buddugoliaeth yn erbyn Yr Alban yn eu gêm gyntaf a phwynt bonws mewn colled yn erbyn Awstralia yn eu gêm olaf yn ddigon i sicrhau lle Cymru yn y rowndiau nesaf fel un o wyth tîm gorau'r bencampwriaeth.
Ond oherwydd bod canlyniadau Cymru yn waeth na'r timau eraill sydd yn weddill yn y gystadleuaeth, mae'n rhaid iddyn nhw wynebu pencampwyr y byd am yr eildro yn ystod y bencampwriaeth.
Cafodd Cymru gweir y tro diwethaf iddynt herio'r crysau duon bythefnos yn ôl, gan golli o 12-56 yn ystod gemau'r grŵp.

Er gwaetha'r her o'u blaenau, mae Ioan Cunningham yn hyderus y gall Cymru greu sioc enfawr.
"Ni 'di dangos y tîm y cyfleon ni wedi creu," meddai.
"Os ni'n gallu 'neud hwnna eto, a ni'n gallu cwblhau'r cyfleon 'na, ni'n gallu sgorio tri, pedwar, pump cais pwy a ŵyr?
"Mae'r gêm 'na i ni os ni moyn e."
'Mwy o goesau yn y tîm'
Ychwanegodd Cunningham ei fod wedi ceisio gwneud y tîm yn gyflymach ar gyfer yr ornest, gan ychwanegu "bach mwy o goesau yn y tîm."
Mae'r prif hyfforddwr wedi gwneud pum newid i'r tîm a gollodd yn erbyn Awstralia yng ngêm olaf y grŵp.
Mae Jasmine Joyce wedi'i symud i safle'r cefnwr, gan wneud lle i Lowri Norkett i ddechrau ei gêm gyntaf o'r bencampwriaeth.

'Dangos fflachiau'
Dim ond un newid arall sydd yn yr olwyr, wrth i Keira Bevan ddechrau am y tro cyntaf gan gymryd lle Ffion Lewis fel partner Elinor Snowsnill ar yr hanner.
Yn y rheng flaen mae newidiadau wedi'u gwneud ymhlith y blaenwyr.
Mae Carys Phillips wedi gwella o anaf a wnaeth gadw hi allan o'r tîm ar gyfer y gemau yn erbyn Seland Newydd ac Awstralia.
Mae Donna Rose hefyd yn dychwelyd i'r garfan, wedi iddi gael ei gwahardd rhag chwarae'r gêm yn erbyn Awstralia.
Bydd cyfle hefyd i'r prop Gwenllian Pyrs a'r maswr Lleucu George gael eu blas cyntaf o Gwpan y Byd ar ôl cael eu henwi ar y fainc.
Yn ôl y maswr Snowsnill, mae Cymru yn ymfalchïo yn y ffaith mai Seland Newydd yw'r ffefrynnau amlwg ar gyfer y gêm.
"Ni'n gwybod mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth dydy pobl heb weld o'r blaen," meddai.
"Ni wedi dangos fflachiau ohono hyd yn hyn, mae ein hymosod wedi bod yn wych mewn mannau, a'n hamddiffyn hefyd.
"Ond nawr mae'n rhaid i bopeth ddod at ei gilydd a gwneud hi yn gyson am 80 munud."