Ceiniogau cyntaf ag wyneb y Brenin i gael eu cynhyrchu
Mae'r ceiniogau cyntaf gydag wyneb y Brenin yn dechrau cael eu hargraffu yn y de ddydd Gwener.
Mae'r Bathdy Brenhinol yn dechrau ar y gwaith o symud yn raddol at gael portread o'r Brenin Charles III ar ddarnau arian y wlad.
Bydd darn 50 ceiniog er cof am y diweddar Frenhines yn ymddangos yn newid y cyhoedd gan fanciau a swyddfeydd post o fis Rhagfyr.
Bydd gweithwyr yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn cynhyrchu 9.6 miliwn o gopïau i nodi marwolaeth y Frenhines yn 96 oed.
Bydd un ochr i'r geiniog yn dangos dyluniad gwreiddiol a ymddangosodd ar geiniogau i nodi coroni'r Frenhines yn Abaty Westminster yn 1953.
Mae tua 27 biliwn o geiniogau gyda phortread o'r diweddar Frenhines yn cylchredeg yn y DA a bydd dal modd eu defnyddio i dalu.
Bydd ceiniogau gydag wynebau'r Frenhines a'r Brenin yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â'i gilydd.