Newyddion S4C

S4C

Hiliaeth: 'Addysgu pobl sydd yn achosi gwir newid'

NS4C 30/10/2022

Yn wreiddiol o Jamaica mae’r cogydd Geoff Miller wedi byw ar Ynys Môn ers dros 20 mlynedd bellach ac mae’n ei ddisgrifio fel “home from home.”

Wrth i Fis Hanes Pobl Dduon ddirwyn i ben am eleni, mae Geoff wedi bod yn dathlu’r mis gan adlewyrchu ar rai o'r sialensiau mae wedi ei wynebu fel dyn du yng Nghymru.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Geoff ei fod wrth ei fodd yn byw yng Nghymru gyda’i wraig Gwawr a tri o feibion.

“Mae’r rhan yma o Gymru, y gwyrddni yn fy atgoffa o Jamaica a’r cyfeillgarwch sydd yma. Dwi wrth fy modd yn mynd i bentrefi gwledig gyda fy fan Cegin Caribî. Mae pawb wrth fy modd fy mod yn dysgu Cymraeg so mae yn gartrefol yn union fel mae pobl yn Jamaica.

“Dwi wedi cael gymaint o gefnogaeth gan y gymuned pan ddechreuais fy musnes coginio, mae pobl wedi fy nerbyn yma. Dwi’n galw a chydnabod fy hun rŵan fel person Jamaican Cymreig.”

Image
S4C
Geoff a'i wraig Gwawr ar ddiwrnod eu priodas.

Er bod Geoff yn caru Cymru, y Cymry a’r Gymraeg, mae’n dweud bod hiliaeth yn dal i fodoli yma.

“Mae cael cyfartaledd i bobl ddu wedi dod ffordd ymlaen, ond mae ffordd hir i fynd. Dyma’r dechrau. Mae llawer iawn o honno fo i wneud efo addysgu pobl.”

Mae Geoff wedi cael sawl profiad o hiliaeth ac wedi gorfod clywed rhai sylwadau sy’n brifo.

“Dwi wedi cyfarfod pobl sydd wedi fy nhrin yn wael, wedi gwahaniaethu yn fy erbyn a defnyddio’r gair “n” o fy mlaen, ond nes i ddim ymateb mewn ffordd blin - nes i esbonio pam bod defnyddio iaith fel’na yn anghywir. A dwi wedi cael pobl yn ymddiheuro i fi ac yn newid y ffordd maen nhw’n gweld pobl.

“Pedair blynedd ar ôl i fi ddechrau gweithio ar y fferri yn Sir Fôn fe naeth un o fy nghydweithiwr ddweud wrtha i am (ar noson allan). ‘Pan nes di gyrraedd do’n i ddim yn gwybod sut i siarad gyda chdi, o’n i erioed wedi siarad efo person du o’r blaen’.

“Fe nath hynny daro fi.

“Mae gwahaniaethu yn dal i ddigwydd heddiw, mae hiliaeth yn dal i ddigwydd heddiw a dyla hynny ddim bod. Mae rhaid gofyn pam bod hyn yn dal i ddigwydd? Pam bod un genedl ddim yn hoffi cenedl arall? Pam bod rhai ddim yn hoffi person oherwydd lliw ei chroen? Dylai hyn ddim digwydd mewn cymdeithas heddiw.”

'Dathlu mis pobl dduon'

Mae Geoff yn credu bod hi’n bwysig i bawb ddathlu mis pobl dduon gan ei fod “yn ffordd dda o addysgu pobl am hanes a chymdeithas.

“Mae mis hanes pobl dduon yn bwysig i integreiddio pobl a diwylliannau pobl gyda’i gilydd. Dyna sy’n dod a ni at ein gilydd,” meddai.

“Ac roedd protestiadau fel Black Lives Matter yn gyfle i bobl ddangos empathi a pharch - er bod rhywbeth ofnadwy wedi gorfod digwydd i gynnal y protestiadau.

“I fi yn bersonol, mae Mis Pobol Dduon yn ddathliad ond mae hefyd yn gyfle i addysgu pawb, nid dim ond pobl wyn ond pobl ddu fel fi. Mae’n bwysig bob pawb yn gwybod hanes ei gilydd. Dylai hanes pawb gael eu dathlu gan bawb.”

Ychwanegodd mai addysgu pobl yw’r frwydr fwyaf wrth fynd i’r afael a hiliaeth.

“Addysg sydd yn achosi gwir newid. A dwi’n gwybod hynny gan fy mod i wedi addysgu pobl sydd wedi fy nhrin yn ofnadwy.

“Ma’n iawn os dydy pobl ddim yn fy hoffi achos fy mhersonoliaeth ond nid achos fy lliw.

“Mae hiliaeth yn rhywbeth sydd yn cael ei basion lawr gan genedlaethau, does neb yn cael eu geni yn hiliol ond ma’ addysgu pobl yn newid hynny.”

'One blood, one love'

Pan symudodd Geoff i Gymru am y tro cyntaf roedd rhai o’i ffrindiau wedi synnu ei bod yn mwynhau gymaint yma.

“Dwi wedi cyfarfod sawl person du bydda ddim yn byw yma. Mae rhai wedi gofyn i fi: ‘sut wyt ti’n byw yna? Maen nhw’n siarad iaith wahanol’, ac maen nhw’n gofyn ‘ydi nhw’n trin chdi’n oce?’

“A dwi’n dweud wrth gwrs bod nhw. Mae un neu ddau wedi gwneud sylwadau ond mae hynny yn digwydd ym mhob man.”

Ychwanegodd: “Anghofiwch am liw pobl, am darddiad pobl, ‘da ni gyd yn bobl. Yn Jamaica mae genno ni ddywediad “one blood, one love” ac mae angen i bawb gofio am y dywediad yna dwi’n meddwl.”

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.