Hunangofiant y Tywysog Harry i gael ei ryddhau ym mis Ionawr
Bydd hunangofiant y Tywysog Harry yn cael ei ryddhau yn y flwyddyn newydd.
Bydd 'Spare' yn cael ei ryddhau ar 10 Ionawr.
Roedd y llyfr i fod i gael ei ryddhau yn yr hydref, ond y gred yw fod y lansiad wedi ei ohirio yn sgil marwolaeth Ei Mawrhydi Elizabeth II er mwyn gwneud rhai newidiadau a chael gwared o ddeunydd niweidiol.
Bydd posibilrwydd y bydd Harry yn crybwyll pa aelod o'r Teulu Brenhinol wnaeth sylwad hiliol am liw croen ei fab, Archie, yn ogystal â chyfeirio at ysgariad ei rieni a marwolaeth ei fam ym Mharis yn 1997.
Penguin Random House fydd yn cyhoeddi'r hunangofiant, a dywedodd llefarydd ar eu rhan fod y llyfr yn "mynd â darllenwyr yn ôl i un o ddarluniau mwyaf arwyddocaol yr 20fed ganrif: dau fachgen ifanc, dau dywysog, yn cerdded tu ôl i arch eu mam wrth i'r byd wylio mewn galar ac wedi dychryn".