Yr heddlu'n parhau i ymchwilio i anhrefn mewn gêm bêl-droed yn Y Rhyl
Mae Heddlu’r Gogledd yn parhau i ymchwilio i anhrefn mewn gêm bêl-droed yn Y Rhyl.
Digwyddodd yr anhrefn mewn gêm bêl-droed rhwng Rhyl 1879 a Bangor 1876 ar ddydd Sadwrn, 22 Hydref.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu: “Mae’r heddlu wedi cyfweld ag un person dan rybudd ac maent yn bwriadu siarad â dau berson arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad."
Mewn datganiad dywedodd y Ditectif Arolygydd Kris Williams: “Rydym yn parhau i fwrw ymlaen â’n hymchwiliad i’r anhrefn ar ddiwedd y gêm bêl-droed rhwng Rhyl 1879 a Bangor 1876 ddydd Sadwrn.
“Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a chynrychiolwyr y ddau glwb, ac rydym yn cymryd camau i gyfweld y rhai dan sylw ac erlyn lle bo angen.
“Mae un person wedi’i gyfweld dan rybudd ac mae manylion dau berson arall rydyn ni’n bwriadu siarad â nhw mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi’u darparu.”
Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru eisoes yn ymchwilio i’r digwyddiad.