Hebrwng Kanye West o swyddfa Skechers ar ôl cyrraedd yn 'ddiwahoddiad'
Cafodd Kanye West ei hebrwng o swyddfa gorfforaethol Skechers yn Los Angeles ar ôl cyrraedd “yn ddirybudd a heb wahoddiad”, yn ôl y brand esgidiau.
Dywedodd y cwmni fod y rapiwr o’r Unol Daleithiau, sydd wedi newid ei enw yn gyfreithiol i Ye wedi’i orfodi i adael y safle gan ei fod yn “ffilmio heb awdurdod”.
Ychwanegodd Skechers nad oes ganddynt “unrhyw fwriad” i weithio gyda’r rapiwr.
Fe wnaeth Skechers gondemnio sylwadau gwrth-semitaidd diweddar Kanye West.
Mewn datganiad, dywedodd Skechers: “Cyrhaeddodd Kanye West - y cyfeirir ato hefyd fel Ye - yn ddirybudd a heb wahoddiad yn un o swyddfeydd corfforaethol Skechers yn Los Angeles.
“Gan ystyried bod Ye yn ffilmio heb awdurdod, fe wnaeth dau o swyddogion gweithredol Skechers ei hebrwng ef a’i barti o’r adeilad ar ôl sgwrs fer.
“Nid yw Skechers yn ystyried ac nid oes gennym unrhyw fwriad i weithio gyda West. Condemniwn ei sylwadau cynhennus diweddar ac nid ydym yn goddef gwrth-semitiaeth.
Ddydd Mawrth, dywedodd Adidas ei fod yn stopio cynhyrchu brand Yeezy, sef cynhyrchiad ar y cyd gyda Kanye West ar unwaith.
Fe wnaeth y cwmni ffasiwn Balenciaga hefyd dorri cysylltiadau ag Ye yr wythnos diwethaf, yn ôl adroddiadau.
Ddydd Mercher, dywedodd Madame Tussauds yn Llundain ei bod wedi symud ei ffigwr o olwg y cyhoedd ac i archif yr amgueddfa.
Cafodd West ei feirniadu yn gynharach y mis hwn am wisgo crys-T “White Lives Matter” i ddangosiad ei gasgliad diweddaraf yn Wythnos Ffasiwn Paris.
Mae ei gyn- wraig, Kim Kardashian ac aelodau o’i theulu wedi galw arno i roi’r gorau i’r “trais ofnadwy ” tuag at y gymuned Iddewig.
Hate speech is never OK or excusable. I stand together with the Jewish community and call on the terrible violence and hateful rhetoric towards them to come to an immediate end.
— Kim Kardashian (@KimKardashian) October 24, 2022