Adwaith yn cipio'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig am yr eildro
27/10/2022
Mae'r band Adwaith wedi ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.
Enillodd y band o Gaerfyrddin y wobr mewn seremoni nos Fercher, am eu halbwm Bato Mato.
Fe wnaeth y band guro dros 130 o artistiaid gwahanol i gipio'r wobr, gan gynnwys bandiau fel Los Blancos a'r Manic Street Preachers.
Dyma'r ail dro iddynt ennill y wobr - y tro cyntaf oedd yn 2019 gyda'u halbwm Melyn.
Bydd y band hefyd yn ennill £10,000 fel rhan o'r wobr.