Gweithwyr iechyd yn cynnal pleidlais dros streicio
Gweithwyr iechyd yn cynnal pleidlais dros streicio
Bydd cannoedd ar filoedd o weithwyr iechyd yn dechrau pleidleisio ddydd Iau i benderfynu os y byddant yn mynd ar streic ai peidio yn sgil anghydfod dros gyflog.
Bydd o leiaf 350,000 o aelodau Unison yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys nyrsys, parafeddygon a therapyddion galwedigaethol, yn penderfynu os ydynt yn dymuno ymgyrchu.
Mae un gweithiwr iechyd o Abertawe wedi dweud na fydd yn gallu fforddio gwresogi ei chartref y gaeaf hwn wrth i'r bleidlais streic ddechrau.
Dywedodd Lorna Hood fod ei bil tanwydd bron wedi dyblu yn ystod yr wythnosau diwethaf a gyda chostau cynyddol eraill mae'r sefyllfa wedi mynd yn amhosib iddi.
Dywedodd Ms Hood: “Rwyf eisoes wedi siarad â fy nghyflenwr ynni cartref gan fy mod yn gwybod na fyddaf yn gallu fforddio gwresogi fy nghartref y gaeaf hwn.
“Rwy’n berson sengl ac ni fu erioed unrhyw gefnogaeth i’r nifer o bobl sengl sydd allan yna, er bod yn rhaid i chi weithio a gorfod talu’r un biliau â theulu.
“Mae fy nhaliadau wedi cynyddu cymaint fel bod tanwydd yn fy nghar wedi mynd o £48 i rhwng £80 a £90 i’w lenwi.
“Mae’n rhaid i mi deithio 50 milltir y dydd ar gyfer gwaith ac nid oes unrhyw gysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus, gan fod angen cyswllt bws ar gyfer y trên cyntaf sydd yn cyrraedd fy ngwaith am 10:00, ond rwy’n dechrau am 7:00.”
Dywedodd y derbynnydd gofal iechyd ei bod yn gweld ffrindiau a chydweithwyr yn gadael y GIG i weithio mewn siopau ac i gwmnïau glanhau bellach.
“Maen nhw wedi bod yn gweithio i’r GIG ers blynyddoedd lawer ond mae hyn bellach yn amhosibl,” meddai.
“Heb y gweithwyr cyflog isel hyn bydd y system gyfan yn methu. Mae cymaint o bobl yn dioddef o straen oherwydd llwythi gwaith na ellir eu rheoli a diffyg staff – nid oes unrhyw gymhelliant i weithio i’r GIG.”
Codiad cyflog
Daw’r bleidlais wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi codiad cyflog o £1,400 ar gyfer holl fandiau cyflog y Gwasanaeth Iechyd yng Ngymru, sy’n cyfateb i 4%.
Bydd undebau addysg hefyd yn cynnal pleidlais am weithredu diwydiannol gyda'r balot yn agor ddydd Iau.
Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, eisioes wedi dweud fod disgwyl codiad cyflog yn unol â chwyddiant yn rhesymol, ond fod diffyg cyllid gan Lywodraeth y DU wedi gadael gweinidogion Cymru mewn sefyllfa amhosib.
'Streiciau mwy amrywiol' heddiw
Wrth gymharu'r streiciau presennol â rhai'r gorffennol, dywedodd yr hanesydd, Syr Deian Hopkin, fod sawl peth sy'n wahanol.
"Y peth cyntaf ydy ei bod hi'n llawer mwy amrywiol na'r gorffennol, ma' gyda chi bobl nawr sydd ddim fel arfer yn mynd ar streic a phobl broffesiynol.
"Yr ail beth ydy mae'r bobl ddiwydiannol yn ymuno â nhw felly ma'r economi ei hun o dan straen ond ma' 'na chwyddiant hefyd, a ma' rhaid i'r llywodraeth geisio ei gwtogi a thynnu yn ôl ar wariant cyhoeddus ac eto, gweithwyr gwasanaethe cyhoeddus sy'n mynd ar streic. Sut gallwch chi gysoni'r ddau? Pwy fydd yn ildio gynta'?"
Ychwanegodd Syr Deian Hopkin fod yr ansefydlogrwydd presennol hefyd yn ffactor nad oedd yn bresennol yn ystod streciau y gorffennol.
"Yn y gorffennol, roedd gyda chi brif weinidogion profiadol wrth y llyw, Margaret Thatcher, Harold Wilson, ac adrannau â phobl brofiadol yn eu tywys nhw.
"Nawr, tri prif weinidog o fewn wythnose', a phwy sy'n gyfrifol am ba adran? Felly ma' 'na ddiffyg profiad gan y llywodraeth i gymharu â phrofiad yn yr undebe' a ma' hwnna yn creu gwrthdaro diddorol iawn."
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Unison, Christina McAnea mai "streicio ydy'r peth olaf mae gweithwyr gofal ymroddedig eisiau ei wneud, ond gyda ein gwasanethau yn y fath gyflwr a staff yn ei chael hi'n anodd i ddarparu ar gyfer cleifion, mae llawer yn teimlo ein bod ni wedi cyrraedd diwedd y daith.
"Mae'r gwasanaeth iechyd yn colli staff profiadol ar raddfa frawychus, gyda gweithwyr yn gadael am swyddi sy'n talu yn well a sydd ddim yn cael gymaint o effaith arnyn nhw a'u teuluoedd."