Rishi Sunak yn gwrthod galwad am Etholiad Cyffredinol
Mae Rishi Sunak wedi gwrthod galwad o'r newydd am Etholiad Cyffredinol, wrth ymateb i gwestiynau gan Aelodau Seneddol am y tro cyntaf.
Roedd Mr Sunak yn cymryd rhan yn ei sesiwn gyntaf o gwestiynau i'r prif weinidog ddydd Mercher.
Fe alwodd Syr Keir Starmer ar Rishi Sunak i gynnal Etholiad Cyffredinol.
Ond fe wnaeth Mr Sunak atgoffa Syr Keir fod y blaid Geidwadol wedi ennill mwyafrif yn 2019 gan ychwanegu nad oedd Syr Keir yn un i barchu "penderfyniadau democrataidd".
Roedd hyn yn feirniadaeth o Syr Keir Starmer am ei fod eisiau cynnal ail refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd.
Fe holodd Syr Keir a oedd Suella Braverman yn iawn i ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cartref wythnos diwethaf.
Roedd Suella Braverman wedi gadael ei rôl ar ôl anfon e-bost cyfrinachol drwy gyfeiriad e-bost personol.
Ond dywedodd Mr Sunak ei bod wedi derbyn ei chamgymeriad.
Ffurfio llywodraeth
Cafodd Mr Sunak ei benodi'n brif weinidog ddydd Mawrth ar ôl cael ei wahodd gan y Brenin Charles III i ffurfio llywodraeth.
Rishi Sunak oedd yr unig ymgeisydd i sicrhau cefnogaeth 100 o aelodau seneddol Ceidwadol er mwyn cael ei benodi'n arweinydd y Ceidwadwyr yn dilyn ymddiswyddiad Liz Truss.
Bydd Mr Sunak yn gobeithio parhau yn ei rôl am gyfnod hirach na Ms Truss, a gafodd ond tri chyfle i wynebu arweinydd yr wrthblaid yn Nhŷ’r Cyffredin.
Dywedodd y prif weinidog wrth arweinydd yr SNP yn y senedd, Ian Blackford, ei fod yn falch ei fod wedi siarad gyda Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, nos Fawrth.
Fe ofynnodd Syr Keir hefyd am fideo o Mr Sunak a gafodd ei ffilmio yn ystod yr haf, lle'r oedd Mr Sunak yn dweud ei fod wedi symud arian o ardaloedd "difreintiedig" i leoedd cyfoethocach.
Dywedodd Mr Sunak nad oedd Syr Keir Starmer "braidd yn gadael Llundain".