Newyddion S4C

Ford i roi'r gorau i gynhyrchu'r Fiesta flwyddyn nesaf

26/10/2022
Fors Fiesta

Mae cwmni Ford wedi cadarnhau na fydd rhagor o Fiestas yn cael eu cynhyrchu o 2023 ymlaen, gan ddod a therfyn ar 46 mlynedd o'r model poblogaidd. 

Daw'r newyddion wrth i'r cwmni fwrw ymlaen gyda chynlluniau newydd i gynhyrchu mwy o geir trydanol. 

Fe wnaeth y Fiesta ymddangos am y tro gyntaf yn 1976 ac ers hynny mae Ford wedi cynhyrchu 22 miliwn Fiesta. 

Roedd y Fiesta yn dal i fod yn un o'r ceir mwyaf poblogaidd yn y byd tan 2020, ond mae Ford wedi cyhoeddi na fydd ei ffatri yn Yr Almaen yn cynhyrchu rhagor o'r ceir ar ôl mis Mehefin 2023. 

Mewn datganiad dywedodd Ford eu bod yn "cyflymu eu hymdrechion" i sicrhau bod pob un o'u gerbydau'n rhai trydanol erbyn 2035. 

Ar hyn o bryd, dim ond dau fath o gar trydan y mae Ford yn ei werthu yn Ewrop, ond mae gan y cwmni gynlluniau i gynhyrchu saith model newydd erbyn 2024. 

Yn ôl y cwmni, maent yn bwriadu gwerthu 600,000 o geir trydanol yn Ewrop erbyn 2026.

Y Fiesta fydd y model diweddaraf i Ford gael gwared ohono o ganlyniad i'w cynlluniau trydaneiddio. Fe ddaeth oes y Mondeo i ben yn gynharach yn 2022 ac mae yna gynlluniau i gael gwared ar y model Focus erbyn 2025. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.