Newyddion S4C

Y Brenin yn ymddangos ar raglen The Repair Shop

26/10/2022
Brenin Charles ar The Repair Show

Fe fydd y Brenin Charles III yn ymddangos ar bennod arbennig o The Repair Shop nos Fercher fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant y BBC. 

Cafodd The Repair Shop: A Royal Visit ei ffilmio cyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth II tra bo Charles III dal yn Dywysog Cymru. 

Fel rhan o'r rhaglen arbennig, mae'r tîm o arbenigwyr The Repair Shop yn cael eu gwahodd i Dumfries House yn Yr Alban. 

Yn ystod y bennod, mae'r Brenin yn chwilio am help i drwsio hen gloc o'r ddeunawfed ganrif a darn o ceramig gafodd ei greu er mwyn dathlu Jiwbilî Diamwnt y Frenhines Victoria. 

Yn ogystal â thrwsio eitemau gwerthfawr y Brenin, mae'r tîm hefyd yn cael cyfle i siarad gyda Charles ynglŷn â hyfforddi cenhedlaeth newydd o grefftwyr. 

Mae cyflwynydd y rhaglen, Jay Blades, yn cael cyfle i gwrdd â disgyblion o Raglen Adeiladu Crefft Sefydliad y Tywysog, sydd yn hyfforddi pobl ifanc mewn crefftau traddodiadol fel gwaith metal a charreg a cherfio pren. 

Yno, mae'r Brenin yn siarad am y "trasiedi" o'r diffyg hyfforddiant galwedigaethol mewn ysgolion. 

"Dydy pawb ddim yn gyfforddus gyda'r academaidd," meddai.

"Dwi'n gwybod o Ymddiriedolaeth y Tywysog, dwi wedi gweld y gwahaniaeth ni'n gallu gwneud i bobl sydd â'r sgiliau technegol ni angen trwy'r amser.

"Y broblem dwi'n meddwl yw bod hyn yn cael ei anghofio.  Mae prentisiaethau yn hanfodol, ond am ryw reswm maen nhw wedi rhoi'r gorau i brentisiaethau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.