Rishi Sunak yn cysylltu â Mark Drakeford
Mae Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak, wedi cysylltu â phrif weinidog Cymru Mark Drakeford ar ei ddiwrnod cyntaf.
Mae'n draddodiad i brif weinidogion newydd yn San Steffan i siarad ag arweinwyr y llywodraethau datganoledig ar ôl cymryd yr awenau.
Ond yn ystod ei chyfnod byr o 49 diwrnod fel prif weinidog, ni wnaeth Liz Truss gysylltu gyda phrif weinidog Cymru.
Dydy Mr Sunak ddim wedi dilyn y trywydd yma, gan ddweud ar gyfryngau cymdeithasol nos Fawrth ei fod wedi siarad â Mark Drakeford, oriau'n unig ers dod yn brif weinidog.
Dywedodd Mr Drakeford eu bod wedi siarad ynglŷn â'r pwysigrwydd o gydweithio fel pedair cenedl i wynebu'r heriau mae'r DU yn ei wynebu.