Creu cwmni datblygu ynni fydd yn nwylo Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn creu cwmni datblygu ynni mewn ymateb i ansicrwydd ynni a'r argyfwng costau byw.
Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James,y bydd yr elw o ynni sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru yn sicrhau mwy o fudd i bobl yng Nghymru.
Byddai unrhyw arian dros ben yn mynd yn ôl i’r pwrs cyhoeddus i’w ailfuddsoddi er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi.
Dywedodd y Gweinidog: “Rydym am gynaeafu ein gwynt a’i ddefnyddio i gynhyrchu pŵer sydd o fudd uniongyrchol i bobl yng Nghymru.
“Byddwn yn sefydlu datblygwr ynni adnewyddadwy sy’n eiddo cyhoeddus. Mae hwn yn fuddsoddiad cynaliadwy hirdymor sy’n rhoi sero net a chymunedau Cymru wrth wraidd y cyfnod pontio sydd ei angen arnom.
“Os yw gwledydd eraill yn gynsail o gwbl, yna dylem ddisgwyl elw sylweddol o’n buddsoddiad ac – wrth inni rannu uchelgeisiau’r cenhedloedd eraill hyn - mae gennym gyfle gwirioneddol i gynhyrchu incwm a fydd wir yn ein helpu i gyflawni yma.
“Rydym yn cymryd camau cadarnhaol i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau sero net mewn ffyrdd sydd o fudd i’n cymunedau.”
Angen 'newid agwedd'
Wrth ymateb i ddatganiad y Gweinidog, dywedodd Janet Finch-Saunders AC, Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig:
“Wrth i ni wynebu problem barhaus newid hinsawdd a chost gynyddol ynni, mae angen agwedd newydd at ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Yn anffodus, nid yw cynllun newydd Llafur yn rhoi unrhyw eglurder.
“Ni fu unrhyw fanylion ynghylch faint o arian sy’n mynd i gael ei fuddsoddi a dim eglurder ynghylch sut y bydd y cynllun hwn yn cyd-fynd â’r Gwasanaeth Ynni presennol.
“Rhaid i weinidogion Llafur wrando ar gynlluniau’r Ceidwadwyr Cymreig i sefydlu Cronfa Buddsoddi mewn Ynni Morol Cymru gwerth £150 miliwn er mwyn sicrhau bod gan Gymru fynediad at gronfa enfawr o ynni glân a fforddiadwy.”