Achos Ysgol Dyffryn Aman: Rheithgor yn ystyried eu dyfarniad
Mae rheithgor yn achos merch 14 oed sydd wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio dwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill y llynedd yn ystyried eu dyfarniad.
Dechreuodd y rheithgor ystyried eu dyfarniad yn Llys y Goron Abertawe am 12:30 ddydd Llun.
Roedd y ferch, nad oes modd ei henwi oherwydd ei hoedran, eisoes wedi pledio’n euog i dri chyhuddiad o fwriadu anafu a bod mewn meddiant o lafn miniog.
Roedd hi wedi gwadu ceisio llofruddio dwy athrawes, Fiona Elias a Liz Hopkin, a disgybl yn yr ysgol yn Sir Gaerfyrddin ar 24 Ebrill y llynedd.
Cafodd y ddwy athrawes a’r disgybl eu trin yn yr ysbyty ar ôl cael eu trywanu gan y ferch.
Roedd y ferch, oedd yn 13 oed ar y pryd, wedi dweud wrth Lys y Goron Abertawe yn ystod yr achos ei bod yn ymddiheuro am yr hyn ddigwyddodd ac nad oedd hi'n cofio llawer o'r digwyddiad.
Dywedodd ddydd Gwener ei fod yn “anodd cofio” beth ddigwydd a’i bod yn “sori”.
Clywodd y rheithgor gan yr erlyniad ei bod hi wedi dweud wrth ei hathrawes Fiona Elias, “dw i'n mynd i dy ladd” cyn ei thrywanu hi a Liz Hopkin oedd yn ceisio ei rhwystro.
Clywodd y rheithgor hefyd i'r heddlu ganfod darluniau yn ei bag oedd yn cyfeirio at 'Mrs Frogface Elias' ac enw'r disgybl wnaeth hi drywanu, gyda'r geiriau "boddi", "marwolaeth" a "llosgi".