Pobl Gwynedd yn wynebu cynnydd o 8.23% yn eu treth cyngor
Mae pobl Gwynedd yn wynebu gweld eu treth cyngor yn codi 8.23% ar ôl mis Ebrill wedi i’r cyngor sir orwario £8.3 miliwn eleni.
Bydd Cynghorwyr Gwynedd yn cytuno ar gyllideb derfynol yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 6 Mawrth pan y bydd rhaid iddynt ystyried codi’r Dreth Cyngor 8.23% a chymeradwyo arbedion a thoriadau gwerth £519,000.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Wyn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Gyllid, mai'r cam yma oedd yr “unig ddewis” er mwyn galluogi’r Cyngor i osod cyllideb gyfreithlon.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod polisi Llywodraeth San Steffan o gynyddu cyfraniad Yswiriant Gwladol cyflogwyr wedi arwain at gynnydd o hyd at £4.5 miliwn mewn costau staffio i Gyngor Gwynedd.
Roedden nhw hefyd yn dweud eu bod nhw wedi derbyn y setliad isaf ond un cynghorau Cymru gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Roedd yna hefyd gynnydd wedi bod yn y galw am wasanaethau allweddol ar gyfer pobl Gwynedd, megis gwasanaethau gofal i oedolion, gwasanaethau gofal plant a gwasanaethau gwastraff.
“Rydym yn rhagweld bydd y Cyngor yn gorwario £8.3 miliwn eleni, gyda 83% o’r swm yma yn y maes gofal oedolion a phlant,” meddai arweinydd y cyngor, Nia Jeffreys.
“Mae’n dorcalonnus gweld y straeon tu ôl i’r ffigyrau hyn, er enghraifft mae gorwariant gwasanaethau cymdeithasol plant wedi gwaethygu’n sylweddol ers blwyddyn ac wedi cynyddu o £2.6 miliwn i £3.7 miliwn, yn bennaf o ganlyniad i gynnydd yng nghostau lleoli plant a’r cynnydd yng nghymhlethdodau pecynnau gofal.
“Er bod gwariant yn y maes digartrefedd wedi lleihau ers blwyddyn, rydym dal i fod yn gwario £5 miliwn eleni ar wasanaeth llety argyfwng.”