Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio mewn digwyddiad y tu allan i orsaf heddlu
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad y tu allan i orsaf heddlu yn Rhondda Cynon Taf wedi ymddangos yn y llys.
Mae Alexander Stephen Dighton, o Lantrisant, wedi ei gyhuddo o saith trosedd yn dilyn y digwyddiad y tu allan i Orsaf Heddlu Tonysguboriau nos Wener.
Ymysg y troseddau honedig mae ceisio llofruddio ac ymosod ar weithiwr y gwasanaethau brys, cynnau tân yn fwriadol, achosi difrod troseddol, bod ag arf ymosodol yn ei feddiant, a bod â chyllell/llafn yn ei feddiant.
Wrth ymddangos gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Llun, fe wnaeth Stephen Dighton wrthod cynrychiolaeth gyfreithiol.
Dywedodd Mr Dighton: “Nid wyf yn ystyried y proffesiwn yn un parchus.
“Rwyf wedi gweld gormod o lygredd i hyd yn oed ystyried ymddiried yn sefydliad y wladwriaeth.”
Ni blediodd i’r cyhuddiadau, ac fe fydd yn parhau yn y ddalfa cyn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 3 Mawrth.
Fe wnaeth swyddogion Heddlu De Cymru “herio” dyn y tu allan i Orsaf Heddlu Tonysguboriau nos Wener.
Cafodd dau swyddog eu hanafu yn y digwyddiad a’u cludo i’r ysbyty. Ni wnaeth unrhyw un ddioddef anafiadau difrifol ac maent bellach wedi eu rhyddhau o’r ysbyty.