Mam yn pledio am roddwyr bôn-gelloedd i roi 'ail gyfle' i'w merch fach
Mae mam i faban tri mis oed o'r de a gafodd ddiagnosis o gyflwr gwaed prin yn apelio ar bobl i lofnodi’r gofrestr bôn-gelloedd mewn ymgais i achub bywyd ei merch.
Yn bedair wythnos oed fe wnaeth Dolcie-Mae Edwards-Raymond o Gasnewydd dderbyn diagnosis o hemophagocytic lymphohistiocystosis (HLH) ar ôl iddi fynd yn sâl.
Ar ôl derbyn y diagnosis roedd rhaid iddi gael ei chludo i ysbyty'r Royal Victoria yn Newcastle.
Mae hi'n derbyn triniaeth arbenigol yn yr ysbyty ac yn parhau yno tan fod rhoddwr bôn-gelloedd ar gael iddi.
Dywedodd mam Dolcie-Mae, Courtney-Jade Edwards: "Ni ddylai unrhyw deulu orfod mynd trwy gyfnod mor anodd, yn gwylio eu plentyn yn brwydro yn erbyn rhywbeth mor fawr.
"Fe allwch chi helpu teuluoedd fel ni i gael cyfle i greu atgofion trwy gofrestru i fod yn rhoddwr."
Fe allai HLH, sydd yn digwydd pan mae celloedd gwaed gwyn yn ymosod ar y corff, beryglu bywyd os nad yw'n cael ei drin yn iawn.
Yn ôl astudiaeth a gafodd ei chyhoeddi yn 2022, roedd 1,674 o bobl wedi derbyn diagnosis o HLH yn Lloegr rhwng 2003 a 2018.
'Torcalonnus'
Mae dau fath gwahanol o HLH. Mae un yn etifeddol ac fel arfer yn effeithio ar fabanod o dan un oed, tra bod HLH eilaidd yn cael ei achosi gan heintiau ac fel arfer yn digwydd ar ôl chwech oed.
Dywedodd Courtney-Jade nad oedd hi na thad Dolcie-Mae, Ashley, yn ymwybodol o'r cyflwr cyn i'w merch dderbyn diagnosis.
"Doedd gennym ni ddim syniad am yr anhwylder gwaed prin yma tan i Dolcie-Mae gael diagnosis.
"Roeddem mor drist pan gafodd hi'r diagnosis.
"Roedd glywed bod corff ein merch yn ymosod ar ei hun yn dorcalonnus. Ac yn gwybod nad oeddem yn gallu gwneud unrhyw beth heblaw eistedd wrth ei hochr a gweddïo am ddyddiau gwell."
Mae'r teulu nawr yn apelio ar bobl rhwng 16 a 30 oed i ymuno â chofrestr bôn-gelloedd elusen Anthony Nolan i ddod o hyd i roddwr ar gyfer Dolcie-Mae.
“Helpwch i roi ail gyfle mewn bywyd i gleifion fel fy merch fach,” meddai Ms Edwards.
“Gall trawsblaniad bôn-gelloedd gan berson, rhywun fel chi, fod ei hunig obaith.”
Dywedodd Charlotte Cunliffe, cyfarwyddwr datblygu’r gofrestr yn Anthony Nolan: “Mae’n dorcalonnus meddwl am yr hyn y mae Dolcie-Mae bach a’i theulu yn mynd drwyddo ac rydym yn eu cefnogi yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
“Os ydych rhwng 16-30 oed, cofrestrwch ar-lein i gofrestr Anthony Nolan ac anfon eich swabiau yn ôl. Fe allech chi fod yr ateb sydd ei angen ar rywun fel babi Dolcie-Mae i oroesi.”