Wrecsam: Fan yn methu â stopio ar ôl i blentyn a dyn gael eu 'hanafu'n ddifrifol'
Mae dyn a phlentyn wedi dioddef “anafiadau difrifol” ar ôl gwrthdrawiad yn Wrecsam ddydd Sul.
Mewn datganiad dywedodd Heddlu’r Gogledd bod gyrrwr fan wedi gwrthdaro â dau o gerddwyr ar Lôn Hullah am tua 17.50 gan fethu â stopio ar ôl eu taro nhw.
Fe gafodd y cerddwyr eu cludo i’r ysbyty gan y gwasanaethau brys wedi’r gwrthdrawiad gydag “anafiadau difrifol” meddai’r llu.
Mae Heddlu’r Gogledd bellach yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â’r llu ar frys.
Maen nhw’n annog unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal adeg y gwrthdrawiad all fod â delweddau dashcam neu gylch cyfyng i gysylltu.
Dywedodd Scott Duncan o Uned Troseddau’r Ffyrdd y gallai cymorth o’r fath fod yn “hanfodol” wrth ddod o hyd i’r cerbyd a’r person oedd yn gyfrifol.
Dywedodd y llu bod y fan, oedd yn naill ai lliw gwyn neu arian, wedi colli drych oddi ar ochr chwith y cerbyd wedi’r gwrthdrawiad.
Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o gymorth gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 25000089651.
Llun: Google Maps