Newyddion S4C

Cymro yn cael ei 'ecsbloetio' gan giang cyffuriau o Lerpwl

Y Byd ar Bedwar 24/10/2022

Cymro yn cael ei 'ecsbloetio' gan giang cyffuriau o Lerpwl

Mae dros 150 o rwydweithiau 'County Lines' wedi cael eu cofnodi gan luoedd Heddlu Cymru eleni, yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan raglen Y Byd ar Bedwar. 

Llinellau Sirol neu County Lines yw'r arferiad gan gangiau i gymryd mantais o bobl ifanc i gludo arian a chyffuriau o ddinasoedd mawr y Deyrnas Unedig i drefi llai ac ardaloedd gwledig.

Mae un dyn gafodd ei dargedu yn 16 mlwydd oed i weithio i gang county lines o Lerpwl, wedi rhannu ei brofiad am y tro cyntaf mewn cyfweliad fel rhan o’r gyfres newydd. 

“O'n i’n arfer dod â fyny at 10 kilo o gyffuriau mewn i Gymru unwaith yr wythnos," meddai’r dyn.

“[Y] bobl oedd yn gofyn i fi symud cyffuriau o Lerpwl i Gymru oedd, fel arfer,  yn benaethiaid ar y gang.

“O'n i’n sbïo arnyn nhw fel teulu…so wnes i swapio teulu fi am county lines.” 

Image
County Lines
Mae dros 150 o rwydweithiau county lines wedi cael eu cofnodi gan luoedd heddlu Cymru eleni.

'Mynd i farw'

Mae’r dyn, sydd nawr yn ei ugeiniau, ac yn dymuno bod yn ddienw, yn dweud ei fod e wedi cael ei dargedu ar ôl symud i fyw i Lerpwl pan oedd e’n 16 mlwydd oed.

Yn ystod ymweliad i dafarn, fe wnaeth dyn dieithr gynnig cocên am ddim i’r bachgen.

Ar ôl derbyn y cyffuriau, fe wnaeth y dyn ddechrau cymryd mantais ohono, a gofyn iddo gludo cyffuriau yn ôl i Gymru ar y penwythnosau ar ran y gang.

Yn gyfnewid am wneud hyn, byddai’r bachgen yn derbyn cyffuriau, esgidiau a dillad drud am ddim.

Fodd bynnag, wrth i’w ddibyniaeth ar gyffuriau waethygu, fe wnaeth y rhoddion droi’n gyffuriau’n unig.

Wrth adlewyrchu ar y cyfnod yma o’i fywyd, mae e’n dweud bod y gang wedi defnyddio tactegau treisgar i’w gadw dan reolaeth.

“Fe wnaethon nhw fynd lawr ffordd wledig a’m rhoi mewn ffos - a sathru drosof i. Ces i forthwyl i gefn fy mhen-glin, a chyllell stanley yn fy mhen," meddai.

“Ar yr adeg yna o fy mywyd, fe wnes i dderbyn fy mod i’n mynd i farw heddiw yn gaeth i gyffuriau, neu marw o fewn 40 o flynyddoedd, dal yn gwneud be' o’n i’n neud.”

'Ymyrraeth gynnar'

Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mae tua 20% o’r unigolion sy’n gweithredu o fewn County Lines yn y Deyrnas Unedig yn blant. 

Un sy’n gweithio gyda phlant sy’n cael eu hecsbloetio gan gangiau county lines yw Lois Owen, sy’n Weithiwr Cymdeithasol i Dîm Diogelu Plant Cyngor Conwy.

“Be ‘da ni’n gweld mwy a mwy yn ddiweddar yw bod nhw’n [y gangiau] defnyddio cyfryngau - Facebook, Instagram a Snapchat - ac mewn ffordd yn dod i adnabod y plant yn reit dda," meddai.

Image
Lois Owen
Mae Lois Owen yn weithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Conwy

“Maen nhw’n [y plant] meddwl bod nhw’n ffrindiau efo’r bobl sy’n groomio nhw ac felly haws wedyn iddyn nhw wneud be’ mae'r unigolion yna eisiau iddyn nhw wneud.”

Fel rhan o’i gwaith, mae Lois Owen yn treulio amser gyda phlant a theuluoedd yn y gymuned.  Ond roedd cyfnod y pandemig yn un heriol.

Eleni, mae twf wedi bod yn y nifer o atgyfeiriadau i’r tîm.

“Doedd y plant ddim yn mynd i ysgolion, roedd yr ysgolion ar gau, a nhw sy’n gweld y plant pum niwrnod yr wythnos - doeddwn ni ddim yn cael cymaint i mewn - ond ar y pryd roedd e’n anodd i wneud y gwaith ymyrraeth gynnar yna," meddai.

Y Byd ar Bedwar, S4C, 24 Hydref, 20:25

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.