Newyddion S4C

Cymru'n colli i Awstralia yng Nghwpan y Byd

22/10/2022

Cymru'n colli i Awstralia yng Nghwpan y Byd

Mae tîm rygbi menywod Cymru wedi colli o 7-13 yn erbyn Awstralia yng Ngwpan y Byd yn Seland Newydd yn gynnar fore Sadwrn.

Er iddyn nhw golli o 7-13 yn erbyn Awstralia yn Whangerei yn gynnar fore Sadwrn, mae dal gobeithion iddyn nhw fynd trwyddo i rownd yr wyth olaf ar ôl i Ffrainc guro Fiji o 44-0.

Er colli, fe sicrhaodd Gymru bwynt bonws a brofodd yn arwyddocaol a bydd Cymru yn gobeithio gall Loegr guro De Affrica ddydd Sul. 

Fe aeth Awstralia ar y blaen wedi pum munud gyda chais i’r mewnwr Iliseva Batibasaga gyda Lori Cramer yn trosi.

Daeth y sgôr yn gyfartal wedi 20 munud pan groesodd Sioned Harries am gais gydag Elinor Snowsill yn trosi.

Fe ildiodd Cymru gic gosb ychydig cyn yr hanner gyda Cramer yn gosod ei thîm ar y blaen.

Cael a chael oedd hi wedi’r egwyl gyda Cramer yn cicio gôl gosb am unig bwyntiau’r hanner.

Fe ddaeth capten Cymru Siwan Lillicrap i'r cae fel eilydd i ennill ei 50ed cap dros ei gwlad ac er y golled, mae Cymru'n dathlu.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru Ioan Cunningham: "Mae ishe i ni ddechre tyfu yn yr awyrgylch yma nawr. Ni’n haeddu bod ‘ma. Ma’r talent gyda ni. Ma’ ishe ni fynd mas a dangos e a dim teimlo fod y pwyse ‘na o ‘n flaen ni. Mae pwyntiau’n bwysig yn y cystadleuaeth hyn a gawn ni weld shwt ma’r penwythnos yn gorffen.”

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.